S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Hansh am greu cynnwys gan bobl anabl a phobl fyddar

6 Tachwedd 2020

Mae S4C yn edrych am gwmni cynhyrchu i ddatblygu, ysgogi a chynhyrchu cynllun i greu cynnwys ffurf fer i Hansh gan bobl anabl a/neu bobl fyddar .

Fel rhan o ymrwymiad S4C i gynyddu amrywiaeth, mae'r sianel yn edrych am becyn o gynnwys fydd yn gyfle i ddatblygu a dangos doniau a thalent cynhyrchu pobl anabl a/neu bobl fyddar.

Bydd angen i'r cwmni fynd ati i recriwtio a chasglu tîm o bobl fydd yn gallu bod yn rhan o'r cynllun, o berfformwyr i ysgrifenwyr, gyda'r nod o ymbweru'r unigolion i greu cynnwys adloniant o'r safon uchaf.

Dylai'r gwaith datblygu gynnwys gweithdai ar gyfer grŵp o unigolion sydd eisiau cael eu lleisiau wedi'i clywed ar Hansh.

Bydd y sesiynau datblygu yma yn gyfle i fagu hyder, dysgu am y broses cynhyrchu a gweld eu syniadau yn dod yn fyw wrth gael eu cyhoeddi ar draws platfformau Hansh.

Disgwylir pump i ddeg darn o gynnwys gael ei gynhyrchu, a bydd angen i'r syniadau ddangos strwythur y cynllun, gan gynnwys tair elfen o ddatblygu, cynhyrchu a chyhoeddi a dangos gweledigaeth greadigol ar gyfer y prosiect.

Y dyddiad cau yw 17:00 dydd Llun, 16eg o Dachwedd, 2020.

Am fwy o fanylion ewch i https://www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/newyddion-cynhyrchu/post/40347/galwad-am-gynnwys-hansh/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?