S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Deddf Rhyddid Gwybodaeth

Rhan 1: S4C

Sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/81 ac aeth ar yr awyr gyntaf am 6.00pm ddydd Llun 1 Tachwedd 1982. Cyn sefydlu S4C, roedd y nifer cyfyngedig o raglenni Cymraeg a gynhyrchwyd wedi eu gwasgaru trwy amserlenni BBC1 ac ITV. Ers 1982, mae pob rhaglen deledu Gymraeg ei hiaith, o ba ffynhonnell bynnag, wedi cael ei darlledu ar S4C i greu un gwasanaeth cynhwysfawr trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dros y blynyddoedd, mae S4C wedi datblygu rôl arbennig yn narpariaeth gwasanaeth teledu cyhoeddus gan ddarlledu i gymuned ddwyieithog. Yn fwy diweddar, mae technoleg newydd megis y Rhyngrwyd a dyfodiad teledu digidol yn 1998, wedi galluogi S4C i ehangu'r gwasanaeth mae'n ei ddarparu.

Darlledwr comisiynu yw S4C yn hytrach na chynhyrchydd rhaglenni, yn creu swyddi a rhoi hwb i'r economi lleol ledled Cymru. Ariannir S4C gan gyfuniad o gymhorthdal gan y Trysorlys a chyllid a grëwyd gan weithgareddau ei is-gwmnïau masnachol. Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn darparu arian i S4C allu cyflawni ei weithgareddau yn unol â fformiwla statudol a draethir yn Neddf Darlledu 1996.

Darlledir rhaglenni S4C o Sgwâr Canolog, Caerdydd.

Mae gwybodaeth bellach ynglyn ag S4C ar gael ar wefan S4C ac yn Adroddiad Blynyddol a Datganiad Cyfrifon S4C.

Rhan 2: Deddf Rhyddid Gwybodaeth

2.1 Cyflwyniad

Mae gan unigolion eisoes hawl i fynnu mynediad at wybodaeth amdanynt eu hunain o dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998. Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 ("y Ddeddf") yn adeiladu ar hyn trwy roi hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth gaiff eu dal gan awdurdodau cyhoeddus, boed yn bersonol neu yn amhersonol. Diffinnir "gwybodaeth" yn y Ddeddf fel gwybodaeth gaiff ei chofnodi mewn unrhyw ffurf.Rhaid hysbysu unrhyw berson sy'n gwneud cais statudol, ysgrifenedig i awdurdod cyhoeddus am wybodaeth a yw'r awdurdod cyhoeddus yn dal yr wybodaeth honno a rhaid cyflenwi'r wybodaeth honno iddo/iddi. Bydd yr hawl mynediad hwn yn dod i rym ar gyfer pob awdurdod cyhoeddus ym mis Ionawr 2005, ac fe draethir y manylion pellach ym mharagraff 3.4 isod.

2.2 S4C a'r Ddeddf

At gyfer dibenion y Ddeddf, mae'r term "awdurdod cyhoeddus" yn cynnwys pob adran o'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus. Diffinnir S4C fel awdurdod cyhoeddus yn y Ddeddf, yn ogystal â'r BBC a Channel 4.Yn arwyddocaol, nid yw'r Ddeddf yn berthnasol i S4C yn yr un ffordd ag y mae'n berthnasol i awdurdodau cyhoeddus eraill. Diffinnir S4C fel awdurdod cyhoeddus "o ran gwybodaeth gaiff ei ddal i bwrpasau heblaw am newyddiaduraeth, celfyddyd neu lenyddiaeth" (fel mae'r BBC a Channel 4). Nid yw'r Ddeddf felly yn cyfeirio at wybodaeth gaiff ei dal er mwyn creu allgynnyrch S4C, boed yn gysylltiedig â rhaglenni, deunydd aml-gyfryngol neu ryngweithiol. Er enghraifft, caiff pob deunydd sy'n gysylltiedig â rhaglenni (gan gynnwys anghenion rhaglenni) eu heithrio o gynllun cyhoeddi S4C.Mae'n bwysig nodi, fodd bynnag, y bydd S4C yn parhau i ddarparu llawer o wybodaeth ynglyn â rhaglenni S4C ac allgynnyrch sy'n gysylltiedig â rhaglenni. Er enghraifft, mae gwybodaeth llawn yn ymwneud â Phroses Ddatblygu a Chomisiynu S4C ar gael trwy ymweld â Gwefan Cynhyrchwyr S4C (www.s4c.cymru/cy/cynhyrchu/). Mae'r wefan hon yn nodi gwybodaeth sydd yn cynnwys:

  • Gofynion Datblygu Rhaglenni S4C (ar sail gyfunol ac adrannol)
  • Manylion Cyfleu S4C
  • Anghenion Technegol S4C
  • Canllawiau Ieithyddol ar gyfer rhaglenni ar S4C
  • Cynllun Archif S4C
  • Bydd S4C hefyd yn parhau i gyhoeddi gwybodaeth gynhwysfawr am ei raglenni yn ei Hadroddiad Blynyddol.

Rhan 3: Cynlluniau Cyhoeddi

3.1 Beth yw Cynllun Cyhoeddi?

O dan y Ddeddf, mae dyletswydd ar bob awdurdod lleol i nodi pa wybodaeth maent yn ei chyhoeddi, neu yn bwriadu ei chyhoeddi, yn nhermau 'categorïau' gwybodaeth. Mae'r categorïau gwybodaeth sy'n berthnasol i gynllun S4C wedi eu nodi yn Rhan 4.Diben cynlluniau cyhoeddi yw sicrhau fod cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl yn cael ei ddarparu heb yr angen am gais penodol am wybodaeth. Bwriedir hefyd y bydd cynlluniau yn annog sefydliadau i fod yn ragweithiol yn nhermau'r wybodaeth maent yn ei chyhoeddi, ac i ddatblygu diwylliant o ddidwylledd yn gyffredinol.

3.2 Cynllun Cyhoeddi S4C

Nod Cynllun Cyhoeddi S4C yw darparu canllaw gynhwysfawr o'r wybodaeth mae S4C yn ei rhoi o fewn cyrraedd y cyhoedd a, lle bo modd, i ddarparu dull hawdd o gael gafael ar yr wybodaeth honno. Bwriedir i'r cynllun roi mwy o wybodaeth ar gael am weithgareddau S4C yn gyffredinol a hyrwyddo gwell dealltwriaeth o'i rôl unigryw.Disgrifiad yw'r cynllun hwn o'r wybodaeth y mae S4C yn ei rhoi o fewn cyrraedd y cyhoedd. Yn unol â'r Ddeddf, mae'r cynllun hwn yn nodi:

  • y categorïau gwybodaeth gaiff eu cyhoeddi gan S4C, neu y bwriedir eu cyhoeddi
  • y modd y cyhoeddir gwybodaeth ym mhob categori, neu y bwriedir iddi gael ei chyhoeddi;
  • a os yw'r deunydd yn, neu y bwriedir iddo fod, ar gael yn ddi-dâl neu a fydd rhaid talu

Nodir y categorïau a'r modd y cânt eu cyhoeddi yn Adran 4. Mae cynllun S4C yn cyfeirio at eitemau a gyhoeddir mewn nifer o ffurfiau gwahanol, gan gynnwys dogfennau electronig, adroddiadau ysgrifenedig a chyfryngau eraill.

3.3 Eithriadau

Yn ogystal ag eithrio gwybodaeth sy'n ymwneud â "newyddiaduraeth, celfyddyd a llenyddiaeth", mae'r Ddeddf hefyd yn cynnwys nifer o eithriadau o'r dyletswydd cyffredinol sydd ar awdurdodau cyhoeddus i drosglwyddo gwybodaeth. Mae hi felly'n bosibl y bydd gwybodaeth benodol yn cael ei heithrio o gynllun S4C oherwydd ei bod yn cael ei chynnwys o fewn cwmpasiad un neu fwy o'r eithriadau.Mewn rhai achosion, gall gwybodaeth gaiff ei chynnwys o fewn categori penodol gynnwys gwybodaeth nad yw o fewn cwmpasiad y Ddeddf. Er enghraifft, mae Adroddiad Blynyddol S4C yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â rhedeg S4C ynghyd â gwybodaeth am raglenni ac allgynnyrch rhyngweithiol S4C. Pan fo gwybodaeth o'r math yma wedi ei chynnwys yn y cynllun, nid yw bob amser yn golygu ei bod o fewn cwmpasiad y Ddeddf.

3.4 Ceisiadau am wybodaeth o Ionawr 2005 ymlaen

Daw hawl mynediad unigolyn i gael gafael ar wybodaeth i rym ar 1 Ionawr 2005. Dylai'r rhai sy'n dymuno arfer eu hawl o dan y Ddeddf o'r dyddiad hwn ymlaen:-

  • wneud eu cais yn ysgrifenedig (mae ceisiadau trwy e-bost yn dderbyniol)
  • gyfeirio eu cais at Swyddog Rhyddid Gwybodaeth S4C (am fanylion cyswllt gweler paragraff 3.9 isod)
  • gynnwys eu henw a'u cyfeiriad er mwyn galluogi S4C i ymateb i'r cais
  • roi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl yn ymwneud â'r wybodaeth y gofynnir amdani
  • gadarnhau'r dull dewisedig o dderbyn yr wybodaeth (e.e copi papur, e-bost neu ddisg gyfrifiadurol)

Bydd S4C yn ymateb i geisiadau statudol am wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith o'r dyddiad y'u derbynnir. Efallai, fodd bynnag, y bydd angen ymestyn y cyfyngiad amser hwn mewn amgylchiadau penodol e.e. pe digwyddid gwneud cais am swm sylweddol o wybodaeth.

3.5 Cael copïau o Wybodaeth

Gall gwybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun hwn unai gael ei lwytho o wefan S4C (lle mae dogfennau ar gael yn electronig) neu gellir gwneud cais amdanynt trwy e-bost, neu trwy ffonio Gwifren Gwylwyr S4C.

Ffôn: 0370 600 4141

e-bost: gwifren@s4c.cymru

Bydd y cynllun hwn ar gael ar wefan S4C a thrwy gyfrwng copi caled i'r rhai nad oes ganddynt fynediad i'r Rhyngrwyd. Cyhoeddir y cynllun hwn yn Gymraeg, Saesneg, ac mewn fersiwn print bras. Gellir cael copi caled o'r cynllun trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.

3.6 Taliadau am Wybodaeth

Ni chodir tâl ar y rhai sy'n gwneud cais am gopïau unigol o'r cynllun hwn, ym mha ffurf bynnag.Ni fydd tâl am lwytho gwybodaeth a gynhwysir yn y cynllun hwn yn uniongyrchol o wefan S4C, oni nodir yn wahanol. (Mae'n bosibl y codir tâl ar ddefnyddwyr gan eraill am gael mynediad i'r Rhyngrwyd, neu am argraffu'r wybodaeth).I'r rhai heb fynediad i'r Rhyngrwyd, mae allbrintiadau unigol o'r wybodaeth berthnasol ar gael trwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C. Fodd bynnag, gall ceisiadau am allbrintiadau lluosog, am ffacsio dogfennau, neu am gopïau archif o ddogfennau nad ydynt bellach ar gael ar wefan S4C, ddwyn tâl o ran costau adfer, llungopïo, ffacsio neu bostio. Ceir manylion o'r union dâl pan wneir y cais a bydd y tâl yn daladwy ymlaen llaw.

3.7 Hawlfraint

Mae'r cynllun hwn, yn ogystal â'r holl wybodaeth a'r deunyddiau sydd ar gael o dan y cynllun hwn, yn ddarostyngedig i hawlfraint S4C oni nodir yn wahanol. Gellir llwytho neu atgynhyrchu deunyddiau o'r fath at ddefnydd personol heb ganiatâd ffurfiol na thâl, ond ni ddylid eu hatgynhyrchu, eu copïo na'u hail gyhoeddi ar gyfer eu gwerthu nag unrhyw ddiben masnachol arall, na'u haddasu na'u trosglwyddo mewn unrhyw fodd.

3.8 Adolygiad a Chyfrifoldeb

Bydd S4C yn adolygu'r cynllun yn rheolaidd (yn enwedig yn sgil ceisiadau statudol am wybodaeth) er mwyn monitro pa mor effeithiol mae'n gweithredu. Wrth fabwysiadu ac adolygu ei gynllun, mae S4C yn ymwybodol o'i ddyletswydd i ystyried lles y cyhoedd wrth adael i'r cyhoedd gael mynediad at wybodaeth mae'n ei ddal. Petai S4C yn dymuno ychwanegu categori o wybodaeth at y cynllun, bydd yn cyflwyno'i gynllun i'r Comisiynydd Gwybodaeth ei ystyried. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi awdurdodi cynllun S4C ar gyfer y cyfnod i fyny at 29 Chwefror 2008.Swyddog Rhyddid Gwybodaeth S4C sy'n gyfrifol am y cynllun ar ran S4C ac am gynnal y cynllun o ddydd i ddydd.

3.9 Ymateb, Sylwadau a Chwynion

Mae S4C am i'r cynllun cyhoeddi hwn fodloni anghenion defnyddwyr. Mae S4C hefyd yn croesawu awgrymiadau am wybodaeth ychwanegol ellid ei chynnwys yn y dyfodol yn ogystal â sylwadau ar sut y gellir gwneud yr wybodaeth a gyhoeddir yn fwy hygyrch.Dylai unrhyw ymateb neu sylwadau am y cynllun cyhoeddi hwn fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at:

Swyddog Rhyddid Gwybodaeth

S4C

Canolfan S4C Yr Egin

Caerfyrddin

SA31 3EQ

E-bost: Iestyn.Morris@s4c.cymru

Os yw defnyddwyr yn anfodlon gyda'u gallu i gael mynediad at yr wybodaeth a gynhwysir o fewn cynllun S4C, dylent gysylltu â:

Ysgrifennydd Bwrdd S4C

S4C

Canolfan S4C Yr Egin

Caerfyrddin

SA31 3EQ

E-bost: Geraint.Pugh@s4c.cymru

Os yw defnyddwyr yn anfodlon o hyd, gallant gyfeirio'r mater at y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn cydymffurfio â'r Ddeddf. Mae gwybodaeth bellach ar gael trwy gysylltu â:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

    • Wycliffe House
    • Water Lane
    • Wilmslow
    • Cheshire
    • SK9 5AF
    • FFfôn: 01625 545 740
    • Ffacs: 01625 524 510
    • E-bost: mail@ico.gsi.gov.uk
    • Rhyngrwyd: www.informationcommissioner.gov.uk

Rhan 4: Categorïau Gwybodaeth gaiff eu dal gan S4C

4.1 Adroddiadau Blynyddol

Disgrifiad: mae'r categori hwn yn cynnwys Adroddiad Blynyddol cyfredol S4C ac Adroddiad Blynyddol y flwyddyn flaenorol.Mae'r Adroddiad Blynyddol a'r Datganiad Ariannol mwyaf diweddar ar gael ar dudalen 'Ynglyn â S4C' ar wefan S4C: www.s4c.cymru/annualreport. Mae Adroddiad Blynyddol a Datganiad Ariannol y flwyddyn flaenorol hefyd ar gael.

4.2 Trefn lywodraethu

Disgrifiad: mae'r categori hwn o wybodaeth yn cynnwys gwybodaeth ddethol sydd yn rhoi fframwaith reoli S4C.Awdurdod S4C sy'n gyfrifol am reoli S4C. Awdurdod darlledu annibynnol yw Awdurdod Pedwaredd Sianel Cymru, yn gyfrifol am bolisi strategol S4C. Penodir Cadeirydd ac aelodau'r Awdurdod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, yn dilyn gweithdrefn agored o ymgeisio a chyfweld.Y dogfennau a ddarperir gan S4C o dan y categori gwybodaeth hwn yw:-

  • Rôl Awdurdod S4C: Mae'r papur hwn yn nodi rôl Awdurdod S4C fel rheolydd ac awdurdod darlledu, ac yn nodi ei berthynas gyda S4C fel gwasanaeth teledu.
  • Côd Ymarfer ar gyfer Aelodau Awdurdod S4C: Mae'r ddogfen hon yn traethu Côd Ymarfer ar gyfer aelodau Awdurdod S4C. Mae wedi ei seilio ar fodel a awgrymwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
  • Rhestr Diddordebau Aelodau Awdurdod S4C: Mae'r ddogfen hon yn cynnwys datganiadau o fuddiannau mewn cwmnïau neu gyrff gweithredol o fewn diwydiant, busnesau cyffredinol, cyrff eraill ac unrhyw fuddiannau ychwanegol.
  • Bwletinau'r Awdurdod: Yn ychwanegol at ei raglen o gyfarfodydd gyda'r cyhoedd ar draws Cymru a chyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol a'i Gynllun Corfforaethol, mae'r Awdurdod yn cyhoeddi bwletinau rheolaidd am ei drafodaethau a'i benderfyniadau.

4.3 Dogfennau Corfforaethol

Disgrifiad: mae'r cateogi o wybodaeth hwn yn cynnwys dogfennau corfforaethol dethol a gyhoeddir gan S4C yn rheolaidd.Y dogfennau y darperir gan S4C o dan y categori gwybodaeth hwn yw:

  • Cynllun Corfforaethol S4C: Mae'r ddogfen hon yn traethu ymrwymiad S4C i'r gwylwyr, y trethdalwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.
  • Cynllun Corfforaethol - Adolygiad Diwedd Blwyddyn: Crynodeb o berfformiad S4C o'i gymharu â'r prif dargedau yng Nghynllun Corfforaethol y flwyddyn flaenorol.
  • Cynllun yr Iaith Gymraeg: Mae S4C fel corff cyhoeddus wedi mabwysiadu'r egwyddor ei fod wrth ymdrin â'r cyhoedd yng Nghymru yn trin yr iaith Gymraeg a'r Saesneg gyda chydraddoldeb. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut mae S4C yn gweithredu'r egwyddor hon wrth ymdrin â'r cyhoedd. Nid yw'r cynllun yn berthnasol i gynnwys gwasanaethau teledu na rhyngweithiol S4C.

4.4. Areithiau Dethol a Datganiadau i'r Wasg

Disgrifiad : Mae'r categori gwybodaeth hwn yn cynnwys datganiadau i'r wasg, areithiau a dogfennau tebyg dethol y mae S4C wedi eu rhoi o fewn cyrraedd y cyhoedd yn ystod y 12 mis blaenorol.Mae'r datganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd yn fwyaf diweddar, yn ogystal ag areithiau a dogfennau tebyg, ar gael o fewn gwefan Adran y Wasg S4C (www.s4c.cymru/c_press.shtml).

4.5 Rhyddid Gwybodaeth

Disgrifiad: mae'r categori hwn yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi cael ei hychwanegu at gynllun cyhoeddi S4C yn ogystal ag ymholiadau dethol a wnaed i S4C yn unol â'r Ddeddf.Pan ddaw hawl mynediad cyffredinol i rym yn Ionawr 2005, bydd ceisiadau penodol am wybodaeth ac ymatebion S4C ar gael o dan y categori hwn.

4.6 Gweithio yn S4C

Disgrifiad: mae'r categori hwn yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau dethol sy'n berthnasol i staff S4C, Polisi Cyfle Cyfartal S4C, yn ogystal â gwybodaeth ddethol am gyfleoedd cyflogaeth gyda S4C.

4.6.1 Canllawiau Staff a Pholisïau

Canllawiau Staff

  • Polisi Cyfle Cyfartal
  • Polisi Gwerthuso
  • Aflonyddu
  • Côd Ymarfer Cyfathrebu S4C
  • Hyfforddiant a Datblygu
  • Diogelwch Cyfrifiadurol, Camddefnydd ac Amddiffyn Data
  • Defnydd o e-bost a'r Rhyngrwyd
  • Polisi Gwyrdd
  • Polisi Mamolaeth a Seibiant i Rieni
  • Polisi gweithio hyblyg
  • Polisi Iechyd a Diogelwch
  • Polisi Absenoldeb heb dâl
  • Ysmygu

Gweithdrefnau Cyllidebol

  • Dadleniad o Ddiddordeb i'r Cyhoedd
  • Twyll
  • Teithio a Chynhaliaeth
  • Hawlio treuliau
  • Trefnweithiau Rheolaeth Fewnol

4.6.2 Cyfleoedd Cyflogaeth

  • Cynllun Profiad Gwaith S4C: Mae S4C yn darparu cyfleoedd profiad gwaith o fewn adrannau penodol.
  • Ysgoloriaeth S4C: Mae S4C wedi sefydlu cronfa i gynnig nifer o ysgoloriaethau hyfforddi i unigolion.
  • Gyrfaoedd: Mae gan S4C hefyd wefan gyrfaoedd sy'n ganllaw gyffredinol i ddarganfod cyflogaeth a chyfleoedd gwaith o fewn S4C a'r cyfryngau. Hysbysebir swyddi gwag a chyfleoedd cyflogaeth gyda S4C yn y wasg leol a chenedlaethol o dro i dro.

Ceir manylion pellach am yr holl wybodaeth a ddarparwyd iddo fod ar gael yn y categori hwn ar wefan gyrfaoedd S4C: www.s4c.cymru/swyddi

Rhan 5: Cysylltu â S4C

Lleolir pencadlys S4C yn:

Canolfan S4C Yr Egin.

Caerfyrddin.

SA31 3EQ.

Mae gan S4C hefyd swyddfeydd yng Nghaernarfon, ac yn Sgwâr Canolog, Caerdydd

Caernarfon:

S4C

Doc Fictoria

Caernarfon

LL55 1TH

Caerdydd:

S4C

3 Y Sgwâr Canolog

Caerdydd

CF10 1FT

Mae Gwifren Gwylwyr S4C ar agor o 9am-10pm yn ddyddiol. Gellir cysylltu yn y ffyrdd canlynol:

Ffôn: 0370 600 4141

E-bost: gwifren@s4c.cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?