Maen nhw'n ennill y brif wobr o £7,500, tlws Cân i Gymru a'r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Yn ail, ac yn derbyn gwobr o £2,000, mae Rhydian Pugh gyda'r gân Cynnal y Fflam, ac yn drydydd mae Nia Davies Williams a Sian Owen gyda'r gân Cain, sy'n derbyn gwobr o £1,000.