S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth Dafydd ap Gwilym i ennill Cân i Gymru

Mae Gai yn credu y gall pwerau y tu hwnt i gefnogaeth pleidlais y gwylwyr fod wedi rhoi hwb iddo ennill eleni.

"Ar fore'r gystadleuaeth, mi es i am dro i hen abaty Ystrad Fflur, sef, yn ôl y sôn, ble mae Dafydd ap Gwilym wedi ei gladdu," esbonia Gai. "Ar gyfer lwc dda, mi wnes i gyffwrdd â'r plac llechen sy'n nodi ble mae'r bedd, ac wrth i mi gerdded o'r safle daeth yna wynt mawr o rywle ac ysgwyd y coed. Roedd yna deimlad iasol yna.

"Un ai bod Dafydd yn troi yn ei fedd am fy mod i'n trio yn Cân i Gymru, neu ei fod o'n dymuno pob lwc i mi - wn i ddim.

"Wedyn wrth i mi adrodd y stori wrth Phil gefn llwyfan mi ddoth y gwynt yma o rywle ac ysgwyd y drysau ac mi ddechreuodd hi fwrw cenllysg. Roedd hynny'n deimlad rhyfedd, fel tasa yna rywbeth ysbrydol yn digwydd!"

Un ai bod pwerau ysbrydol y bardd o'r bedwaredd ganrif ar ddeg wedi dod a lwc i Gai a Phil, neu fod yr hen ddywediad 'Tri Chynnig i Gymro' yn gywir, oherwydd dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i Gai geisio yn y gystadleuaeth - a'r tro cyntaf iddo ennill y wobr gyntaf.

"Efo Cân i Gymru dwyt ti byth yn gwybod beth fydd y canlyniad achos bod yna drawstoriad mor fawr o bobl yn gwrando. Mi wnes i drio y tro cynta' gyda chân roc, yna'r ail waith gyda chân mwy rootsy oedd yn eitha' gwahanol i beth sydd wedi ennill yn y gorffennol," meddai Gai.

"Mae Braf yw Cael Byw yn gân fwy generic, oedd yn sôn am betha universal. Mae'r geiriau 'O Fy Nuw' yn ddywediad sy'n berthnasol i bawb."

Mae hefyd yn credu fod y bartneriaeth gyda Philip Jones, o'r band Gwibdaith Hen Frân, wedi bod yn help.

"Yn bendant mi oedd gweithio gyda Phil eleni yn fuddiol. Dwi'n credu bod pobol yn licio partneriaeth a pheth arall wrth gwrs ydi bod yna ddau deulu a dau grŵp o ffrindiau yn codi'r ffôn i bleidleisio!"

I Gai, mae'r fuddugoliaeth yn deyrnged i'r holl gerddorion yng Nghymru sydd wedi colli breindaliadau yn dilyn newid yn nhrefniant taliadau PRS.

"Cyn hynny, mi oedd y sin gerddoriaeth Gymraeg yn hunan gynhaliol. Oni bai am yr helynt efo'r taliadau buaswn i erioed wedi trio am Cân i Gymru achos doedd dim achos imi wneud hynny," meddai Gai, sydd hefyd wedi penderfynu mai dyma'r tro ola y bydd yn ceisio yn y gystadleuaeth.

"Ond, buaswn i yn annog mwy o gerddorion cynhyrchiol i drio yn y gystadleuaeth, achos o leia' bydd yr arian yn mynd yn ôl i'r sin gerddoriaeth. I ni, mae'r arian yn handi iawn ar gyfer buddsoddi."

Bydd Gai yn defnyddio'r wobr ariannol o £7,500 i ddatblygu ei stiwdio recordio Stiwdio Sbensh yn hen festri Capel Bethel, Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog. Mae Gai a Phil hefyd yn edrych ymlaen at fynd i Iwerddon i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?