Mae Arwel Lloyd Owen yn adnabyddus fel prif gitarydd Al Lewis Band, ond erbyn hyn mae wedi sefydlu ei hun o dan yr enw Gildas.
Fe ddewisodd Arwel yr enw Gildas er cof am y Mynach Cymreig o'r un enw fu'n pererindota trwy Gymru yn y 6ed ganrif ac yn cofnodi digwyddiadau'r dydd yn ei weithiau. Mae Gildas ar fin rhyddhau albwm newydd, yn dilyn llwyddiant yr albwm Nos Da a rhyddhawyd yn 2010.
Mae Arwel yn defnyddio dulliau anghyffredin i greu sain unigryw drwy diwnio ei gitâr yn wahanol a chyfuno'r electroneg gyda'r werin. Yn wreiddiol o Lansannan mae Arwel erbyn hyn wedi symud i Lanelli, ac yn athro yn Ysgol Parc y Tywyn.
Gwybod yn Well
Mi recordiodd Arwel y demo ar gyfer Gwybod yn Well ar ei ffôn symudol, ac wedi clywed ei fod wedi cyrraedd wyth olaf Cân i Gymru 2012 roedd yn falch iawn ei fod wedi buddsoddi mewn technoleg newydd.
Cân syml a gwahanol yw Gwybod yn Well. Mae'n trafod emosiynau wrth i berthynas ddod i derfyn a'r edifar a'r tristwch sy'n dilyn. Mae Arwel yn gobeithio bydd y gân yma yn dod â naws wahanol i'r gystadleuaeth eleni.