S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cymorth

Hunan laddiad

Mae'r wybodaeth yma os ydych yn teimlo'n isel ac angen help neu clust i wrando. Hefyd, ceir cymorth i deuluoedd, gofalwyr, ffrindiau ac eraill os yn adnabod rhywun sy'n teimlo fel hyn.

Anelir tipyn o'r wybodaeth at bobl ifanc yn enwedig, ac mae ambell i wefan gydag adrannau addas i wahanol anghenion pobl mewn sefyllfa o'r fath. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth i'r sawl sydd wedi colli rhywun drwy hunanladdiad.

  • CALM - Campaign Against Living Miserably

    Help a chefnogaeth gan elusen sy'n ceisio helpu dynion ifanc sy'n teimlo'n isel, ac atal hunanladdiad, sef prif reswm marwolaeth dynion o dan 45 yn y DU.

    0800 585858

    www.thecalmzone.net

  • Y Samariaid

    Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos. Mae hefyd gwasanaeth Gymraeg ar gael rhwng 7pm-11pm bob nos, drwy ffonio 0808 164 0123.

    116 123

    www.samaritans.org

  • Papyrus

    Help a chefnogaeth i bobl ifanc sy'n teimlo'n isel iawn ac yn meddwl am hunan laddiad.

    0800 068 41 41

    www.papyrus-uk.org

  • Saneline

    Mae SANE yn rhedeg llinell gymorth genedlaethol, allan-o-oriau sy'n cynnig cefnogaeth arbenigol emosiynol i unrhyw un sy'n byw gyda salwch meddwl, yn cynnwys teuluoedd, ffrindiau neu gofalwyr. Mae'r wefan yn un cynhwysfawr yn cynnig cyngor am eich lles meddyliol. Mae'r llinell ar agor rhwng 4.30pm a 10.30pm yn ddyddiol.

    0300 304 7000

    www.sane.org.uk

  • Meic

    Llinell wybodaeth a gwasanaeth dwyieithog arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0 a 25.

  • Hafal

    Un o brif elusennau Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol a'u gofalwyr. Cefnogaeth a help o bob math, yn cynnwys grwpiau lleol ar draws Cymru.

    www.hafal.org

  • Mind Cymru

    Cyngor a chefnogaeth dwyieithog i unrhyw un sydd gyda problem iechyd meddwl, ond gyda gwybodaeth clir a da ar ystod o bynciau, yn cynnwys yng nghyfnod COVID-19.

    www.mind.org.uk

  • Cruse Bereavement Care

    Mae Cruse Cymru yn cynnig gwasanaethau cynghori, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae deg grŵp ar draws Cymru a chynigir cyngor arbenigol ar brofedigaeth i blant a chyngor dros y ffôn gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi a'u dethol yn ofalus. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i gael hyd i gymorth lleol.

    0808 808 1677

    Cyngor arbenigol oherwydd COVID-19

  • The Mix

    Mae The Mix yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog i unrhyw un o dan 25. Mae'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i iechyd rhywiol, neu beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.

    0808 808 4994

    www.themix.org.uk

  • Amser i Newid Cymru

    Partneriaeth o dair elusen iechyd meddwl mwyaf blaenllaw Cymru ac ymgyrch i herio stigma o gwmpas iechyd meddwl. Mae'r wefan gyda gwybodaeth defnyddiol a diddorol ar sut i wneud hyn a chysylltiadau i Hafal, Gofal a Mind Cymru.

    www.timetochangewales.org.uk

  • Counselling Directory

    Ffordd rhwydd o gael hyd i wasanaethau cwnsela a seicotherapi proffesiynol yn eich ardal.

    www.counselling-directory.org.uk

  • Cyngor ar Iechyd Meddwl ag Arian

    Gwasanaeth sy'n gallu rhoi cefnogaeth a chyngor i chi am unrhyw faterion ariannol sy'n eich poeni pan yn byw gyda salwch meddwl.

    www.mentalhealthandmoneyadvice.org

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?