Os ydych chi adre gyda'r plant ac yn chwilio am gynnwys sy'n diddori ac yn addysgu, gallwn ni yn S4C eich helpu.
Mae nifer fawr o gyfresi teledu Cyw a chynnwys digidol fel apiau a gemau yn cynnig cyfle i blant oed meithrin a chyfnod sylfaen ddysgu wrth chwarae. Dewch i ddysgu yn Ysgol Cyw!
Ysgol Cyw
Dyma restr o'r cyfresi dysgu wrth chwarae sydd ar gael ar-alw ar wefan Cyw ac ar S4C Clic.
Newydd
Amser Maith, Maith Yn Ôl
Dwy gyfres ddrama sy'n cyflwyno hanes i blant. Mae'r rhaglenni yn straeon am fywydau plant yn ystod oes y Celtiaid, y Tuduriaid, Fictoria a'r Rhyfel Mawr. Cyfres sydd wedi ei chreu gyda chyngor haneswyr ar gyfer plant cyfnod sylfaen a hyd at 8 oed.
Cyfres sy'n dangos sut mae Cyw a'i ffrindiau yn chwarae, darganfod a gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas. Mae pob pennod yn cyflwyno profiad newydd y mae'n rhaid i Cyw a'i ffrindiau ei wynebu a'i ddatrys ac yn brofiadau y bydd y gynulleidfa ifanc yn uniaethu ag ef.
Celf a cherddoriaeth wedi ei anelu at y plant ieuengaf. Amrywiaeth o eitemau byr sy'n cyfuno delweddau gweledol a cherddoriaeth amrywiol sy'n swyno plant
Rhaglenni rhifedd i blant cyfnod Sylfaen. Mae cyfresi cyfan Jen a Jim ar Hwb Addysg. Mae cyfres Jen a Jim ar gael trwy hwb dysgu Llywodraeth Cymru ac wedi cael eu creu ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm i blant cyfnod Sylfaen.
Mae'r pyped bywiog Oli Wyn wrth ei fodd gyda pheiriannau a cherbydau mawr o bob math: trenau, loriau llwch, jac codi baw. Cyfres i bawb sydd hefyd wedi ei datblygu yn arbennig ar gyfer plant ag awtistiaeth.
Dyma ystod o weithgareddau lles a meddwlgarwch Shwshaswyn sy'n cynnwys ymarferion bach gofalgar a chrefftau syml sy'n helpu'r plantos bach i ymlacio a chymryd seibiant.
Mae S4C mewn partneriaeth efo Llywodraeth Cymru, Boom Plant, Canolfan Peniarth a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu pecyn addysg i gyd-fynd efo'r gyfres Amser Maith, Maith yn Ôl. Mae'r adnoddau sy'n cyd-fynd efo'r penodau ar S4C Clic ar gael yma ar Ysgol Cyw.
Mae'r pecyn cyfan sydd yn cynnwys adnoddau rhyngweithiol a thaflenni gwaith a gweddill rhaglenni Amser Maith, Maith yn Ôl ar blatfform Hwb Llywodraeth Cymru
Un o'r cyntaf i ddefnyddio'r ap oedd Megan Alaw o Gaerfyrddin, sy'n bum mlwydd oed. "Y peth rwy'n hoffi orau am Antur Cyw yw gwneud geiriau ar drên Jangl a dyfalu beth yw'r llythrennau coll. Rwy' wedi cael nhw i gyd yn gywir hyd yn hyn, ond mae'n mynd yn fwy anodd bob tro felly rwy' am ddal i chwarae. Rwy'n edrych mlaen i ddweud wrth fy ffrindiau amdano pan fydda i nôl yn yr ysgol."
Ap Antur Cyw
Lle i blant ddysgu, chwarae a chael hwyl. Wy ti'n gallu helpu Cyw i gwblhau'r GEIRIAU yn y ffair? Wyt ti'n gallu CYFRI ar y fferm? Beth am daith ar y tren SILLAFU? Beth am gyfansoddi CERDDORIAETH? Beth am fod yn greadigol gyda LLIWIAU yn yr ardal celf? Neu, wyt ti'n gallu paru'r SIAPIAU'R picnic?
Mae'r ap wedi ei ddylunio'n arbennig ar gyfer plant bach felly gallwch fod yn dawel eich meddwl bod y profiad yn hawdd i fysedd bychain ei ddefnyddio ac y bydd y cynnwys yn addas i blant 0-6 oed.