
10 Ebrill 2026
Mae S4C a Rhodri Williams, drwy eu hyswirwyr cyfatebol, wedi dod i gytundeb â Llinos Griffin-Williams. Mae hyn yn dod â’r holl achosion gan Ms Griffin-Williams yn erbyn S4C a Rhodri Williams i ben.
7 Ebrill 2026
O gwmpas y byd mae pobl, cymunedau a chenhedloedd sydd wedi eu gwahanu gan waliau a ffiniau; rhai’n hanesyddol, rhai’n anweledig, ac eraill i’w gweld yn glir. Wrth i gyfres Y Wal ddychwelyd i S4C, Lisa Jên Brown sy’n teithio’r byd er mwyn archwilio rhai o’r ffiniau hyn, a chlywed gan y bobl sy’n byw yn eu cysgod.
3 Ebrill 2026
Mae cyfres ddrama Anfamol yn ôl ac mae Ani yn chwilio am gariad – a’r tro hwn mae hi am daflu’r rhwyd yn eang.
1 Ebrill 2026
Wrth i’r gwanwyn gyrraedd o’r diwedd, daw S4C â chyfres newydd i’r sgrin sy’n llawn gogoniant byd natur. Y naturiaethwr a’r darlledwr Iolo Williams fydd yn ein tywys ar daith obeithiol ledled Cymru ac Ewrop, gan rannu straeon am warchod, adfer a gwneud lle i fywyd gwyllt ffynnu yn ein trefi a’n dinasoedd.
25 Mawrth 2026
Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, sy’n cyflwyno rhaglen olaf ail gyfres Stori’r Iaith ar S4C, gan edrych yn ôl ar gyfraniad ysgubol ei daid at warchod y Gymraeg, a’i ymdrechion yntau i greu teimlad o falchder a pherthyn i’r Gymraeg ymysg byd pêl-droed Cymru.
Gyda chyfraniadau gan Gareth Bale, Joe Allen, Chris Coleman a Dafydd Iwan mae’n amlwg bod y rhai o’i gwmpas yn credu’n gryf bod Ian Gwyn Hughes wedi cyfrannu llawer iawn at Stori’r Iaith.
24 Mawrth 2026
Bydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C yn dilyn bywyd menyw sy’n byw bywyd poliamorus ac yn ceisio herio’r rhagfarnau am y ffordd anghonfensiynol yma o fyw.
23 Mawrth 2026
Mae Craig Bellamy yn dweud ei fod yn benderfynol o barhau â gwaddol cyn-reolwr Cymru, Gary Speed, wrth iddo adlewyrchu ar y dylanwad gafodd Speed ar ei yrfa mewn rhaglen ddogfen ecsgliwsif i S4C sydd yn rhoi portread agos a gonest o Bellamy, rheolwr tîm Pêl-droed Cenedlaethol Dynion Cymru.
20 Mawrth 2026
Mewn blwyddyn gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau, mae rhaglenni S4C wedi derbyn cyfanswm o 17 o enwebiadau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026.
19 Mawrth 2026
Mae S4C yn falch o gyhoeddi bod cwmnïau cynhyrchu Tŷ’r Ddraig, Captain Jac a Boom Cymru wedi ennill cytundebau i greu cynnwys newydd ar gyfer y darlledwr.
18 Mawrth 2026
Sarra Elgan sydd yn cyflwyno’r rhaglen ddiweddaraf o gyfres newydd S4C, Stori'r Iaith, gan gynnig archwiliad ffres ac emosiynol o'r iaith Gymraeg i'r gwylwyr - ei hanes, a'r bobl sy'n ei chadw'n fyw.
Gyda straeon pwerus, cyfweliadau twymgalon a datgeliadau annisgwyl, mae'r rhaglen yn gwahodd cynulleidfaoedd i archwilio pam bod y Gymraeg yn parhau i fod yn ganolog i hunaniaeth y genedl.