S4C Clic a BBC iPlayer
Mae antur fwyd Sbaenaidd Chris 'Flamebaster' Roberts yn parhau ar Ynys Mallorca, lle bydd yn cael cwmni'r Chef seren Michelin o Sir Fôn, Tomos Parry, a'r Actor Elen Rhys. O fwytai traddodiadol rhad i rai ecsglwsif, bydd Chris yn coginio a blasu'r gorau o fwyd yr ynys.
9.00 ar nos Iau, 19 Rhagfyr
Yn rhaglen olaf y gyfres mae'r cogydd tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts yn mentro i Barcelona yng Nghatalwnia i ddarganfod diwylliant bwyd bywiog y ddinas yng nghwmni'r cerddor Cerys Matthews. O tapas mewn bariau vermuth i ddosbarth meistr paella, bydd Chris yn cael profiadau bwyta bythgofiadwy.
So, nesh i addo cwcio stêc i Matthew Rhys, a gan bod fi'n New York - New York strip amdani! Sirloin dani'n galw fo'n fama, ag esh i am y gorau i Matth. Buwch o fferm lleol, oedd 'di bod yn pori ar wair. O'dd y cig yn anygoel. Nesh i gwcio hwn ar BBQ's cymunedol yn Brooklyn, ond mae o jyst cystal ar eich BBQ yn yr ardd gefn!