Rhyngwladol

Rhyngwladol

    Sut i wylio S4C yn rhyngwladol?

    Mwynhewch raglenni S4C ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim. Gallwch hefyd fwynhau bocs sets a chynnwys ecsgliwsif. Dyma restr lawn o'r holl gynnwys S4C sydd ar gael yn rhyngwladol trwy S4C Clic.

    Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio chi y tro nesaf.

    Oes gennych gwestiwn am raglen benodol? Cysylltwch â gwifren@s4c.cymru ac fe fyddwn yno i'ch helpu gydag unrhyw ymholiadau. Am wybodaeth ynglŷn â pha ddyfeisiau sy'n galluogi chi i dderbyn S4C Clic, cliciwch yma

    Ar gael nawr

      • Lauren Phillips

        Adre - Cyfres 6

        Series 6 of Adre, with Nia Parry showing us around some of the home of Wales' famous faces.

      • Y Fflint v Y Bala

        Sgorio: Gemau byw Clic

        Pêl-droed byw o'r Cymru Premier JD - Y Fflint v Y Bala. C/G 12.30. Brwydr hollbwysig yn y Chwech Isaf rhwng dau glwb sy'n ceisio osgoi'r cwymp y tymor yma.

      • Y Deis

        Y Deis

        Gêm gwis gwreiddiol ar gyfer timau sy'n cyfuno gwybodaeth gyffredinol, strategaeth a, gyda Deis yn ganolbwynt iddi, tamed bach o lwc! Yn ymuno â James Williams i gystadlu am y Jacpot heno mae: Gwawr a Catrin, cwpl priod o'r Hen Golwyn; Cam a Khadiza, ffrindiau o Fangor ac Aberteifi; ac Eirian a Caradog, ffrindiau o Sir Gar.

      • Ysgol Y Ffin

        Dal Dy Ddannedd

        Timau o Ysgol Y Ffin sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glan ac ennill Tlws Dani Dant heddi'

      • Trowsus

        Cywion Bach

        Dere ar antur geiriau gyda¿r Cywion Bach wrth iddyn nhw ddysgu gair arbennig heddiw,Trowsus.

      • Swn

        Waw!

        Swn yw'r thema y tro yma i Awi a chriw waw.

      • Jambori

        Jambori

        Helo, shw' mae' Sut wyt ti' Croeso mawr i gyfres newydd o Jamborî. Ymunwch â Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar - gyda hwyaid yn dawnsio yn y bath, drws hudol yn y parc a chath yn coginio cacen. Hyn a lot mwy ar Jamborî!

      • Cyw 16 - Dolenni Llun-Gwener

        Cyw 16 - Dolenni Llun-Gwener

        Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.

      Ein Cylchlythyr

      • Cylchlythyr Rhyngwladol S4C

        Cylchlythyr Rhyngwladol S4C

        Os ydych chi'n dymuno derbyn gwybodaeth am gynnwys rhyngwladol S4C, gallwch danysgrifio i dderbyn e-bost achlysurol.

        Os ydych chi'n hapus i dderbyn gwybodaeth gan S4C am ein cynnwys rhyngwladol, neu i ni ofyn eich barn am ein gwasanaethau, darparwch eich e-bost yn y blwch isod.

        Rydym yn cydnabod bod angen cadw eich manylion personol yn ddiogel. Ni fyddwn yn anfon eich manylion at unrhyw un heb eich caniatâd ac mi fyddwn yn esbonio sut i ddad-danysgrifio bob tro y byddwn ni'n cysylltu â chi.