S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Teyrnged i Owen Edwards

31 Awst 2010

        Mae Cadeirydd S4C, John Walter Jones, wedi talu teyrnged dwymgalon i Gyfarwyddwr cyntaf y sianel gan ei ddisgrifio fel “cawr ym maes darlledu Cymraeg."

Owen Edwards, a fu farw ddoe yn 76 oed, oedd Cyfarwyddwr cyntaf S4C rhwng 1981 a 1989.

Arweiniodd S4C drwy'r blynyddoedd arloesol cynnar gan ei sefydlu fel sianel oedd yn ganolbwynt bywyd diwylliannol yng Nghymru.

Meddai Cadeirydd S4C John Walter Jones: “Roedd Owen Edwards nid yn unig yn un o gewri’r byd darlledu yng Nghymru ond yn un o fawrion ein cenedl. Fe wnaeth gyfraniad amhrisiadwy i barhad ein diwylliant a’n hunaniaeth fel gwlad.

“Fel Cyfarwyddwr cyntaf S4C, fe barhaodd â thraddodiad unigryw ei deulu o sicrhau bod ein diwylliant yn parhau yn un deinamig yn yr oes fodern. Fe adeiladodd ar yr hyn a gyflawnodd ei daid a’i dad ym maes addysg ac ieuenctid trwy sicrhau y gall ein hiaith a’n diwylliant ffynnu ym maes y cyfryngau. Fe lwyddodd i sefydlu gwasanaeth teledu Cymraeg a oedd yn destun edmygedd ledled y byd.

“Wrth estyn ein cydymdeimlad i’r teulu ar yr adeg anodd yma, hoffwn ddweud na fydd Cymru byth yn anghofio ei gyfraniad rhyfeddol.”

Cafodd ei eni a’i fagu yn Aberystwyth yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards, sylfaenydd y mudiad ieuenctid Urdd Gobaith Cymru, ac yn ŵyr i’r hanesydd, awdur a chyhoeddwr, OM Edwards.

Gweithiodd Owen Edwards (1933-2010) yn y cyfryngau Cymraeg am dros 30 mlynedd a chwaraeodd ran allweddol yn sefydliad y gwasanaethau radio BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yn ogystal ag S4C.

Dechreuodd Owen Edwards ei yrfa yn y byd darlledu yn y 1950au hwyr a'r 1960au fel cyflwynydd rhaglenni Cymraeg ar ITV a'r BBC. Enillodd enw da fel darlledwr coeth ar raglen newyddion dyddiol y BBC, Heddiw.

Yn y 1970au, aeth tu ôl i'r camera fel Trefnydd Rhaglenni’r BBC a’r Pennaeth Rhaglenni cyn cael ei benodi’n Rheolwr BBC Cymru yn 1974.

Bydd y rhaglen gylchgrawn Wedi 7 yn talu teyrnged i Owen Edwards mewn rhaglen arbennig am 19:00 a bydd adroddiad hefyd ar brif fwletin Newyddion am 19:30.

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?