S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rownd derfynol Cwpan Word yn fyw ar Sgorio

23 Ionawr 2015

Bydd Rownd Derfynol Cwpan Word rhwng Bala a'r Seintiau Newydd yn cael ei dangos yn fyw yn Sgorio o fewn rhaglen Clwb ar S4C ddydd Sul nesaf – 25 Ionawr.

Hawliodd y Seintiau Newydd eu lle yn y Ffeinal drwy guro Port Talbot yn ystod amser ychwanegol ei gêm gynderfynol ac enillodd Bala eu lle drwy guro Prestatyn.

Ar Barc Latham yn y Dre Newydd y chwaraeir y rownd derfynol ac mae Malcolm Allen, un o'r sylwebwyr ar y gêm yn Sgorio, yn un sy'n edmygu clwb y Bala a'u rheolwr, Colin Caton.

Ond, meddai Malcolm, "Tîm pentref yw Bala o'i gymharu â'r Seintiau Newydd, pencampwyr y gynghrair a Chwpan Cymru a fasa'm llawer yn rhoi lot o obaith iddyn nhw ddydd Sul. Bydd angen i Bala greu lefel uwch o berfformio os am ennill a hyd yn oed wedyn buasai'n rhaid bod y Seintiau'n cael diwrnod gwael ac, wrth gwrs, gall hynny digwydd.

"Dyw Bala erioed wedi curo'r Seintiau mewn unrhyw gêm gystadleuol ac mi fydd hi'n anodd ddydd Sul ond os all Colin Caton roi ei dim gorau allan, heblaw am Lee Hunt, sy'n cael ei wahardd o'r gemau cwpan, efallai gawn ni sioc ac inni wedi gweld digon o rheini mewn gemau cwpan dros y blynyddoedd."

Nicky John fydd yn cyflwyno Sgorio a Bryn Tomos a Malcolm Allen fydd y sylwebwyr gydag Owain Tudur Jones a Dai Davies fel dadansoddwyr arbenigol.

Mae Owain Tudur Jones, 30, adref ym Mangor yn gwella ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin. Mae chwaraewr canol cae Falkirk, sydd nawr yn chwarae yn ail haen Cynghrair yr Alban yn gwella ar ôl y chweched anaf ddifrifol i'w ben-glin.

Ond mae sawl mantais o fod adref gyda'i deulu sy'n rhoi cyfle i'r chwaraewr cenedlaethol dros Gymru a chyn chwaraewr Abertawe, Inverness a Hibernian i fod yn rhan o'r tîm cyflwyno ar gyfer ffeinal y Word Cup ar Sgorio ar Clwb S4C ddydd Sul.

"Rwy' wir yn edrych ymlaen at y ffeinal a dylai'r awyrgylch fod yn arbennig ym Mharc Latham. Dyw'r ods ddim o blaid Y Bala gan nad ydyn nhw erioed wedi curo TNS. Maen nhw'n dîm anodd i'w curo yn enwedig ar gae 3G, ond mae'r Bala'n dda am sgorio goliau a dydych chi byth yn gwybod mewn gêm derfynol."

Mae wedi dioddef llawer o anafiadau yn ystod ei yrfa ond mae wedi mwynhau'r blynyddoedd diwethaf yn chwarae i rai o dimau gorau'r Alban. "Dwi wedi cael amser gwych yn yr Alban, ond mae'n dda cael y cyfle i sylwebu ar gêm lle dechreuais fy ngyrfa."

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?