S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dwy raglen ddogfen S4C ar restr fer Gŵyl Gwobrau yn Efrog Newydd

18 Chwefror 2015

Mae dwy o raglenni dogfen grymus S4C wedi cael enwebiadau ar gyfer seremoni Gŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2015.

Mae'r ffilm bortread o'r diweddar hanesydd Dr John Davies Gwirionedd y Galon: Dr John Davies wedi ei henwebu yng nghategori 'Bywgraffiad/Portread'.

Daw'r newydd am yr enwebiad ychydig o ddyddiau ar ôl marwolaeth y cawr o hanesydd a ysgrifennodd un o glasuron mawr yr ugeinfed ganrif, Hanes Cymru.

Yn y categori 'Hanes a Chymdeithas' mae'r gyfres ddogfen Adam Price a Streic y Glowyr wedi cael enwebiad.

Mae'r ddogfen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies (cynhyrchiad Telesgop) eisoes wedi cael cryn lwyddiant a chanmoliaeth, gan ennill enwebiad BAFTA Cymru ar gyfer y ddogfen orau a gwobr cyfarwyddwr gorau BAFTA Cymru i'r cyfarwyddwr Dylan Richards.

Mae taith emosiynol y gwleidydd Adam Price trwy flwyddyn Streic y Glowyr eisoes wedi cael cryn sylw a chanmoliaeth yn y cyfryngau yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Gwirionedd y Galon: Dr John Davies yn un o 16 enwebiad yn ei chategori o ledled byd ac Adam Price a Streic y Glowyr (cynhyrchiad Tinopolis) yn un o blith 17. Fe fydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yn yr UDA fis Ebrill.

Mae cyfres Adam Price yn cael eu dangos eto ar hyn o bryd fel rhan o Wythnos Cofio Streic y Glowyr rhwng 17 a 22 Chwefror ar S4C.

Dyma'r drydedd flwyddyn yn olynol i raglenni S4C fwynhau llwyddiant yn yr ŵyl hon sy'n derbyn enwebiadau ffilm a theledu o fwy na 50 o wledydd.

Fe wnaeth y ddogfen Fy Chwaer a Fi (Bulb Films, rhan o Boom Pictures Cymru) ennill y Wobr Aur yn y categori Achosion Dynol yn 2013. Yna, y llynedd, fe enillodd Taith Fawr y Dyn Bach (Cwmni Da) y Wobr Arian yn y categori Achosion Dynol a Karen (Cwmni Da) y Wobr Efydd yn yr un categori.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys Rhaglenni Ffeithiol S4C, "Dyma ddwy raglen ddogfen sy'n cyfuno angerdd a gweledigaeth bersonol gyda dealltwriaeth graff am ein cymdeithas a'n hanes. Mae'r enwebiad i'r rhaglen Gwirionedd y Galon: Dr John Davies yn deyrnged i'r hanesydd fu farw'r wythnos yma. Mae rhaglen Adam Price a Streic y Glowyr, beth bynnag yw eich barn am yr anghydfod diwydiannol, yn dangos bod hanes a thraddodiad ein cymunedau glofaol o ddiddordeb i gynulleidfaoedd tu hwnt i Gymru, yn ogystal â'n gwlad ein hunain."

DIWEDD

http://www.newyorkfestivals.com/tvfilm/main.php?p=2,3,16

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?