S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dogfen S4C yn rhoi mynediad ecsgliwsif i'r Super Furry Animals

27 Chwefror 2015

     Bydd rhaglen ddogfen S4C yn rhoi mynediad ecsgliwsif gefn llwyfan gyda'r Super Furry Animals wrth iddyn nhw baratoi i berfformio'r daith gyntaf gyda'i gilydd ers 2009.

Daeth cyhoeddiad mawr y band ar ddydd Gwener, 27 Chwefror, wrth iddyn nhw ddatgelu manylion am daith bum gig ddechrau mis Mai 2015, a'r bwriad i ail ryddhau'r albwm Mwng ynghyd â llyfr a'r rhaglen ddogfen ar S4C.

Mae'r daith yn nodi ugain mlynedd ers i'r SFA arwyddo cytundeb gyda Creation Records, y cwmni recordiau wnaeth ddod ag enwogrwydd rhyngwladol i'r band.

Bydd rhaglen ddogfen S4C yn rhoi darlun o yrfa'r band o'r dechrau, ac yn cael ei dangos ar y sianel cyn y gig gyntaf ym mis Mai. Bydd yn gyfuniad o gyfweliadau ecsgliwsif, lluniau archif, perfformiadau byw, fideos, atgofion a chyfraniadau unigryw a chreadigol gan aelodau'r band.

Meddai Llion Iwan, Comisiynydd Cynnwys S4C, "Doedd dim amheuaeth gen i y byddai'r cyhoeddiad yma gan y grŵp yn destun cynnwrf ymhlith eu dilynwyr ar draws y byd. Wedi dros bum mlynedd o seibiant, bydd un o fandiau mwyaf Cymru yn gweithio gyda'i gilydd eto, ac mae S4C yn falch iawn o allu cynnig cyfle i'r ffans ymuno â'r band ar y daith honno yn y ddogfen ecsgliwsif ar S4C."

Diwedd

 

 

 

 

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?