S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Adroddiad Blynyddol 2014-15 S4C

21 Gorffennaf 2015

 Huw Jones: “Arian Digonol yn hanfodol” i gwrdd â heriau’r dyfodol

Gwerthfawrogiad cryf a chyrhaeddiad uwch i S4C - ar deledu ac ar-lein

Mae Cadeirydd Awdurdod S4C wedi datgan bod sicrhau arian digonol i’r sianel yn hanfodol er mwyn ei galluogi i wynebu heriau darlledu’r dyfodol. Mae Huw Jones yn gwneud ei sylwadau wrth i Adroddiad Blynyddol y sianel gael ei gyhoeddi.

Mae Adroddiad Blynyddol S4C 2014/15 yn adrodd ar amryw o elfennau o waith y sianel. O ran defnydd a chyrhaeddiad yn ystod y flwyddyn, mae’r adroddiad yn dangos cynnydd sylweddol yng nghyfanswm y niferoedd o bobl sydd wedi gwylio’r cynnwys yn ystod y flwyddyn - ar y teledu ac ar-lein.

• Gwelwyd cynnydd o 10% yn y cyfanswm o wylwyr teledu wythnosol (14/15 - 605k; 13/14 - 551k)

• Gwelwyd gostyngiad o 6% mewn gwylio teledu wythnosol yng Nghymru (14/15 - 360k; 13/14 – 383k)

• Gwelwyd cynnydd o 31% yn niferoedd y sesiynau gwylio o gynnwys S4C ar-lein (14/15 – 5.7m; 13/14 - 4.4m)

Mae Adroddiad Blynyddol 2014/15 S4C hefyd yn casglu bod:

• Gwerthfawrogiad o S4C yn uwch na sianeli eraill, gydag 84% o unigolion a holwyd yn dweud bod S4C yn sianel sy'n dangos sut beth yw byw yng Nghymru.

• Cost yr awr holl gynnwys S4C bellach i lawr i £10,709 – gostyngiad o 35% ers 2009.

• Cyfanswm effaith economaidd S4C yn £170m yn ystod y flwyddyn.

• Cynnydd mewn cyrhaeddiad a gwerthfawrogiad cryf i gynnwys plant S4C.

Mae’r adroddiad yn nodi barn Awdurdod S4C am ansawdd y gwasanaeth yn ystod y flwyddyn, gan ganmol safon yr arlwy mewn nifer o feysydd ac awgrymu’r angen am gryfhau mewn meysydd eraill. Mynegir pryder am y ffordd y mae’r wasgfa ar y gyllideb ar gyfer rhaglenni yn arwain at gynnydd yng nghyfartaledd yr ail-ddangosiadau.

Wrth i Adroddiad Blynyddol S4C gael ei gyhoeddi, meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

“Mae’r Adroddiad hwn yn ymddangos ar adeg dyngedfennol yn hanes S4C wrth i’r Llywodraeth roi cychwyn i’r drafodaeth am ariannu ar gyfer y dyfodol. Gwelwn gynnydd sylweddol mewn gwylio o S4C ar y teledu ar draws Prydain. Yn ystod yr un cyfnod gwelwyd gostyngiad yng Nghymru, sydd ddim yn annhebyg i’r hyn a welodd nifer o sianelau gwasanaeth cyhoeddus eraill. Ar yr un pryd mae yna gynnydd mawr, yn ôl y disgwyl, mewn gwylio ar-lein. Mae ein hymchwil yn cadarnhau bod yna werthfawrogiad cryf o’r gwasanaeth y mae S4C yn ei ddarparu.”

Mae ffigyrau’r adroddiad yn dangos bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg sy’n gwylio’r gwasanaeth teledu yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y flwyddyn, tra bod y niferoedd sy’n gwylio y tu allan i Gymru wedi cynyddu’n sylweddol.

Meddai Huw Jones:

“Mae’n ymddangos ein bod yn edrych ar sefyllfa lle mae pobl sydd wedi symud allan o Gymru yn defnyddio technoleg i gadw mewn cysylltiad â’r bywyd Cymraeg a Chymreig mewn niferoedd cynyddol. Ond hefyd mae gwylwyr iau yn troi oddi wrth y sgrin deledu at gyfryngau newydd, ac mae Cymry ifanc ar gyfartaledd yn llai tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg na phobl hŷn. Rhaid i S4C wynebu’r ddwy her yma yr un pryd – tra’n dal i ddarparu ar gyfer y gynulleidfa sy’n disgwyl arlwy cyson o ddeunydd newydd ar y sgrin draddodiadol. Bydd sicrhau cyllid digonol i gyflawni’r dasg amlochrog hon yn y dyfodol yn hanfodol.”

Meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones:

“Roedd 2014/15 yn flwyddyn heriol arall i staff S4C a’r sector cynhyrchu yng Nghymru, ac rwy’n ffyddiog bod casgliadau’r adroddiad yma’n dangos bod gwaith caled y blynyddoedd diwethaf yn dwyn ffrwyth mewn ffyrdd cadarnhaol iawn.

“Er y cynnydd amlwg yng nghyfanswm y gwylio ar y sgrin ac ar-lein, fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau, yn enwedig wrth i dueddiadau gwylio awgrymu bod llai o Gymry Cymraeg yng Nghymru’n defnyddio gwasanaethau Cymraeg. Ond gyda rhan sylweddol o gynulleidfa S4C yn gwylio o’r tu allan i Gymru, mae’n ymddangos bod niferoedd mawr yn gwerthfawrogi’n gwasanaeth fel modd o gadw cysylltiad â’u mamwlad, a’u mamiaith, yn ogystal â fel ffynhonnell o adloniant a gwybodaeth.

“Y flaenoriaeth nawr yw cynnal safon y gwasanaeth er mwyn parhau i gynyddu poblogrwydd y cynnwys. Fydd hynny ond yn bosib os bydd gan y gwasanaeth arian digonol wrth gwrs, ac yn hynny o beth y mae’r cyfrifoldeb arnom i gyd i sicrhau bod annibyniaeth a chyllid digonol S4C yn cael ei ddiogelu i’r dyfodol.”

Nodiadau:

Mae copi llawn o Adroddiad Blynyddol S4C 2014/15 ar gael yma: http://www.s4c.cymru/abouts4c/annualreport/acrobats/s4c-annual-report-2015.pdf

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Sioned Williams ar 07887 4555 72

Neu Adran y Wasg S4C 02920 741 416

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?