S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Addasiad ffilm o glasur Dylan Thomas 'Dan y Wenallt' yw cynnig y DU ar gyfer Oscar Ffilm Iaith Dramor

09 Hydref 2015

 Yr addasiad ffilm arloesol o ddrama ryfeddol Dylan Thomas Dan y Wenallt yw cynnig y Deyrnas Unedig ar gyfer enwebiad yn y categori Ffilm Iaith Dramor Orau yn seremoni'r Oscars y flwyddyn nesaf.

Dan y Wenallt, a gynhyrchwyd gan y cwmni teledu arobryn fFatti fFilms o dan lyw creadigol y cyfarwyddwr Kevin Allen, yw cynnig BAFTA ar gyfer seremoni wobrwyo Academi America 2016.

Gyda Rhys Ifans a Charlotte Church ymysg y cast ensemble trawiadol, bu’r ffilm Dan y Wenallt ar daith sinemâu a theatrau ledled Cymru fis Rhagfyr diwethaf, ac roedd y ffilm hefyd yn ganolbwynt dathliadau S4C i nodi canmlwyddiant geni'r bardd Dylan Thomas yn Nadolig 2014. Fe fydd yr addasiad Saesneg, 'Under Milk Wood' ar daith sinemâu ar draws y DU o 30 Hydref i nodi diwedd dathliadau canmlwyddiant geni’r cawr llenyddol o Abertawe.

Yn bartneriaeth rhwng fFilms fFatti, Tinopolis, Ffilm Cymru Wales, Goldfinch Enterprise ac S4C, cafodd y ffilm ei chynhyrchu gefn-wrth-gefn yn Gymraeg a Saesneg, ac ar gael unai fel ffilmiau unigol neu gyda'i gilydd, gan yr asiant gwerthiannau rhyngwladol Metro.

Y dehongliad gweledol cyffrous, swreal ac erotig o'r ddrama radio enwog yw'r addasiad ffilm gyntaf o Under Milk Wood ers ffilm eiconig 1972 gydag Elizabeth Taylor a Richard Burton. Mae'r fersiwn Gymraeg o glasur Thomas wedi'i chyfieithu a'i haddasu gan y bardd a'r awdur T. James Jones.

Yn gyfuniad unigryw o farddoniaeth a rhyddiaith glasurol, mae Dan y Wenallt yn dechrau yn nhywyllwch y nos, a thrwy brofiadau'r dyn dall Capten Cat (Rhys Ifans), mae'r stori yn ein tywys trwy gymeriadau pentref Llareggub a'u breuddwydion dyfnaf a mwyaf egsotig.

Fe wnaeth y cynhyrchiad dynnu ynghyd y cyfarwyddwr Allen a'r actor Ifans am y tro cyntaf ers ffilm gwlt 1996 Allen, Twin Town.

Meddai Kevin Allen, cyfarwyddwr creadigol o fFatti fFilms; "Rwy' wrth fy modd i glywed mai Dan y Wenallt yw cynnig swyddogol y DU ar gyfer ffilm Oscar iaith dramor. Mae'n hwb aruthrol i'r addasiadau cefn-wrth-gefn Dan y Wenallt / Under Milk Wood, a hoffwn ddiolch i BAFTA am ein dewis ni."

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Rydym yn hynod falch am y cynnig hwn ac yn ddiolchgar iawn i BAFTA am ddangos ffydd yn y dehongliad beiddgar, ysbrydoledig o shwd glasur gwych. Drwy weithio'n agos gyda chwmnïau a sefydliadau sydd ar flaen y gad yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru, rydym wedi gallu cynnig taith fythgofiadwy i fyd cyfoethog geiriol a delweddol Dylan Thomas. Trwy gyfrwng yr addasiad cyffrous hwn, mae'n un o ffigurau diwylliannol eiconig mwyaf y byd modern unwaith eto wedi helpu i roi sylw byd-eang i Gymru ar lwyfan rhyngwladol."

Dywedodd Kirsty Bell, Rheolwr Gyfarwyddwr Adloniant Goldfinch; "'Rydym yn falch iawn o'r ffilm Dan y Wenallt / Under Milk Wood a'r tîm tu ôl i'r cynhyrchiad. Roeddem yn gwybod o'r munud y gwelsom y prosiect yn gyntaf, a deall pwy oedd y talent tu ôl iddo, y byddai hwn yn gynhyrchiad arbennig iawn ac rydym mor falch ei fod wedi derbyn y gydnabyddiaeth y mae'n ei haeddu. Roedd hwn yn un o brosiectau cynnar Goldfinch ac mae'n dangos y gall canolbwyntio ar brosiectau o ansawdd gan gynhyrchwyr â phrofiad yn y maes fod yn llwyddiant artistig ac ariannol o'i strwythuro a'i hariannu mewn ffordd syml a thryloyw."

Eglura Pauline Burt o'r corff cenedlaethol ffilm Ffilm Cymru Wales, "Mae gan Gymru dalent greadigol sy'n cynyddu ac yn tyfu'n gyflym. Mae Kevin wedi defnyddio ei lais penodol, arbennig i ddehongli'r gwaith hynod hwn o'r newydd a'i gynnig i gynulleidfaoedd newydd mewn ffordd arbennig."

Dywedodd Ron Jones, Cadeirydd Gweithredol Tinopolis Group, "Mae Dan y Wenallt yn waith mor adnabyddus ond mae cyn lleied yn ei ddeall. Athrylith Kevin oedd mentro i feddwl y bardd a chynhyrchu'r fersiwn ffilm gyntaf i gyd-fynd â'r delweddau yr oedd Dylan Thomas wedi ysgrifennu amdanynt. Mae cyfoeth y cynhyrchiad, y gerddoriaeth swynol a chyfieithiad gwych gan Jim Jones yn haeddu clod. Mae'n ddarn cofiadwy o sinema."

Gall gwledydd unigol gyflwyno un ffilm iaith dramor yr un ar gyfer yr 88fed Gwobrau'r Academi am y Ffilm Iaith Dramor Orau.

Bydd y cynigion yn cael eu lleihau i restr fer o naw o geisiadau ym mis Rhagfyr ac yna bydd y pum enwebiad terfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2016, ychydig wythnosau cyn y seremoni Oscars yn Los Angeles ar 28 Chwefror.

Mae dau o gynigion Ffilm Iaith Dramor S4C wedi arwain at enwebiadau Academi Americanaidd i Hedd Wyn ym 1994 a Solomon a Gaenor yn 2000.

Diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?