S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Aled Eirug yn gadael yr Awdurdod

20 Tachwedd 2015

Mae Cadeirydd S4C Huw Jones wedi diolch i Aled Eirug am ei gyfraniad sylweddol a gwerthfawr i’r sianel wrth iddo adael fel aelod o’r Awdurdod.

Mae Aled wedi derbyn rôl fel Aelod Cymru ar Fwrdd Cynnwys Ofcom, y corff sy’n gyfrifol am oruchwylio’r diwydiant darlledu yn y Deyrnas Unedig.

Bu Aled, sydd â phrofiad helaeth yn y maes newyddiaduriaeth, cyfathrebu a llywodraethiant cyhoeddus, yn aelod o’r Awdurdod ers Hydref 2012.

Meddai Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, “Mae profiad, gwybodaeth a brwdfrydedd Aled am y maes darlledu a’r diwylliant Cymreig wedi bod yn gaffaeliad i S4C ar adeg o newid mawr yn y maes darlledu. Hoffwn ddiolch iddo am ei gyfraniad sylweddol a gwerthfawr ar adeg allweddol yn natblygiad S4C.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?