S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Galw ar bobl anturus i fentro Ar y Dibyn

17 Chwefror 2016

Bydd cyfres antur awyr agored S4C yn dychwelyd am ail gyfres yn hwyrach eleni – ac mae cynhyrchwyr Ar y Dibyn yn chwilio am gystadleuwyr anturus i gymryd rhan.

Mae'r gyfres yn cynnig cyfle gwych i un person brwdfrydig newid gyrfa, gan ennill

pecyn swydd gwerth £10,000 sy'n cynnwys yr hyfforddiant a'r cymwysterau sydd eu hangen i weithio yn y sector antur awyr agored, cyfle i fynd ar daith antur dramor, ac offer awyr agored.

Yn ystod y gyfres bydd y cystadleuwyr yn gorfod profi eu hunain mewn amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored - o hwylio a chanŵio i ddringo, beicio mynydd a llawer mwy – o dan lygaid barcud y beirniaid, yr arweinydd antur Dilwyn Sanderson-Jones a'r cyflwynydd, anturiaethwr a llysgennad Blwyddyn Antur 2016 Llywodraeth Cymru, Lowri Morgan.

Os ydych chi'n barod am yr her neu'n nabod rhywun fyddai hoffi'r sialens, cysylltwch â chynhyrchwyr Ar y Dibyn, Cwmni Da, ar e-bost arydibyn@cwmnida.tv neu ffonio 01286 685 300.

Mae’r cynhyrchwyr yn chwilio yn benodol am ragor o bobl anturus o dde Cymru i ymgeisio am le ymhlith y deg olaf fydd yn cystadlu am y wobr fawr.

Meddai’r cynhyrchydd Aled Davies, "Rydym wedi cael ymateb da yn barod, ac mae'r gyfres ddiwethaf wedi dal dychymyg gwylwyr S4C.

"Ond rydym yn chwilio am fwy o bobl i wneud cais am le yn y gystadleuaeth, yn enwedig pobl o dde Cymru. Mae'n gyfle arbennig iawn i gystadlu mewn gwahanol leoliadau yn yr awyr agored yn Eryri a gallwn gynnig llety, bwyd a chostau teithio i'r rhai fydd yn mentro o'r de i herio'r Gogs."

Tomos Gwynedd o Gaernarfon enillodd y gyfres gyntaf, gan fachu swydd blwyddyn fel arweinydd awyr agored yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn.

Meddai Tomos, "Profiad gwych oedd bod yn rhan o'r gyfres a chymryd rhan mewn amryw o weithgareddau fel hwylio, dringo a beicio. Dringo yw fy mhrif gamp a dwi wedi gwneud ychydig o feicio ond roedd rhai o'r tasgau yn heriol tu hwnt! Ers hynny, dwi wedi gweithio yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn am flwyddyn ac mae wedi bod yn gyfle bythgofiadwy."

Mae'r gyfres yn cael ei chynhyrchu gan Cwmni Da o Gaernarfon mewn cydweithrediad â S4C a Sony Pictures Television. Mae S4C wedi ffurfio partneriaeth gyda'r dosbarthwr rhyngwladol (SPT) gyda'r nod o ddatblygu fformatau adloniant ffeithiol fydd yn cael eu hyrwyddo a'u gwerthu ar y farchnad ryngwladol.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?