S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Croesawu penodi adolygydd

07 Awst 2017

Mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU mai Euryn Ogwen Williams sydd i gadeirio adolygiad llywodraeth San Steffan i S4C dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C:

“Rydym yn falch iawn o’r cyhoeddiad hwn gan y Llywodraeth ynglŷn ag adolygiad S4C, ac mai Euryn Ogwen Williams, darlledwr profiadol a dadansoddwr praff o ddyfodol y cyfryngau, sydd wedi cael y cyfrifoldeb o’i arwain.

“Yn gynharach eleni fe wnaethon ni gyhoeddi ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwasanaethau cyfryngol Cymraeg yn y ddogfen ‘S4C: Gwthio’r Ffiniau’, gyda phwyslais ar gael rhyddid i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd y cyfryngau digidol, ac ar sefydlu prosesau tryloyw ar gyfer cyllido’r weledigaeth.

“Bydd yr adolygiad yn gyfle arbennig i nodi pwysigrwydd cyfraniad unigryw gwasanaeth S4C i ddiwylliant ac economi Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac i ddyfodol yr iaith Gymraeg.

“Rydym yn edrych ymlaen at drafod y weledigaeth hon gyda’r adolygydd, a gyda’r cyhoedd, wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen."

Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Cyhoeddwyd yr Adolygiad i gylch gorchwyl, llywodraethiant ac ariannu S4C gan Ysgrifennydd Gwladol Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar 3 Chwefror 2016.

Cyhoeddwyd cyfraniad cyntaf S4C i’r adolygiad, “S4C: Gwthio’r Ffiniau” ym mis Ebrill eleni;

Datganiad i'r wasg

Dogfen S4C: Gwthio'r Ffiniau

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?