S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dangosiad cyntaf un o ffilmiau Gŵyl Iris ar S4C

14 Hydref 2016

Bydd cyfle i weld dangosiad cyntaf y film fer, afaelgar Afiach ar S4C y penwythnos hwn a hynny fel rhan o ddigwyddiadau cyffrous Gŵyl Gwobr Iris 2016 sy’n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar hyn o bryd.

Mae Gŵyl Gwobr Iris 2016 yn rhoi llwyfan i ffilmiau lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws ac yn cael ei chynnal rhwng 13 a 17 Hydref eleni.

Darlledir y ffilm ar S4C nos Sadwrn, 15 Hydref ar S4C am 10.30, bydd modd gwylio ar wefan S4C a BBC iPlayer wedi'r darllediad. Mae’n gynnyrch cynllun Straeon Iris, i annog mwy o straeon LGBT ar gyfer y sgrin yn y Gymraeg. Mae'r cynllun yn bartneriaeth rhwng Gwobr Iris, S4C, BFI NET.WORK a Ffilm Cymru Wales.

Mae stori Afiach yn dilyn cwpl ifanc lesbiaidd sydd yn aros ar blatfform yn disgwyl trên wrth iddyn nhw fyfyrio am farwoldeb ac wynebu marwolaeth.

Cafodd y ffilm ei hysgrifennu gan y dramodydd Bethan Marlow. Mae Bethan yn ddramodydd cynhyrchiol ac ymysg ei gwaith amlycaf yw’r ddrama ryngweithiol Sgint, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Sherman.

Mae Bethan yn rhan o gynllun mentora sgriptio Y Labordy, sydd yn cael ei gefnogi gan S4C, Cyngor Celfyddydau Cymru, Ffilm Cymru Wales a BFI NET.WORK.

Mae cyfarwyddwr Afiach, Carys Lewis, yn enedigol o Gymru, ond bellach yn byw ac yn gweithio yn Toronto, Canada. Mae ganddi brofiad helaeth o gyfarwyddo, cynhyrchu ac actio mewn theatr a ffilm.

Meddai Gwawr Martha Lloyd, Comisiynydd S4C, Drama: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weld Afiach ar y sgrin fawr yn rhan o Ŵyl Gwobr Iris, a chlywed ymateb y gynulleidfa ehangach wrth iddi gael ei dangos ar S4C. Roedd blwyddyn gyntaf prosiect Straeon Iris yn gyfle i gydweithio ag awdur, cyfarwyddwraig a thîm cynhyrchu talentog i greu ffilm gwbl wreiddiol a theimladwy. Mae'r prosiect yn annog gweithgarwch mewn ysgrifennu yn yr iaith Gymraeg ac yn gyfle i weld rhagor o straeon LGBT gwreiddiol ar ein sgrin yn y Gymraeg."

Meddai Berwyn Rowlands, Cadeirydd Gwobr Iris, "Allai ddim meddwl am ffordd well o nodi 10 mlynedd gyntaf Gŵyl Iris na chael y cyfle i rannu gyda’r byd ffilm newydd LGBT yn Gymraeg.

“Y ffilm Afiach yw’r gyntaf o stabl Straeon Iris, prosiect ar y cyd gyda S4C, BFI NET.Work a Ffilm Cymru Wales, i ddatblygu cynnwys LGBT yn Gymraeg. Mae awdur y ffilm, Bethan Marlow, wedi creu darn cynnil o waith sy’n rhoi stori cwpwl lesbiaidd Cymraeg ar y sgrin. Bydd gweld y Gymraeg ochr yn ochr â gwaith Almaeneg, Ffrangeg ac wrth gwrs Saesneg yn deimlad arbennig."

Nodiadau i Olygyddion:

Gwobr Iris yw gwobr ryngwladol Caerdydd am ffilm fer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws sy'n cael ei chefnogi gan Sefydliad Michael Bishop. Dyma'r unig wobr am ffilm fer yn y byd sy'n caniatáu i'r enillydd wneud ffilm newydd. Mae Iris yn cynnig yr hyn sydd ei angen ar wneuthurwyr ffilmiau – cyllid, cefnogaeth ac arweiniad. Mae'r enillydd yn ennill £30,000 i wneud eu ffilm fer nesaf yng ngwledydd Prydain.

Bydd 35 o ffilmiau byr o bob cwr o’r Byd yn cystadlu ar gyfer Gwobr Iris eleni. Mae’n cynnig gwobr o £30,000 i wneuthurwyr y ffilm lwyddiannus er mwyn cynhyrchu eu ffilm nesaf.

Dyma enillwyr blaenorol Gwobr Film Fer Brydeinig Orau: 2007 - Abbe Robinson (Private Life); 2008 - Connor Clements (James); 2009 - Aleem Khan (Diana); 2010 - Ana Moreno (Mosa); 2011 - Andrew Steggall (The Red Bike); 2012 - Fabio Youniss (A Stable for Disabled Horses); 2013 - Jay Bedwani (My Mother); 2014 - Charlie Francis (Middle Man); 2015 - Lloyd Eyre-Morgan (Closets).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?