S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhoi llais i bobl ifanc ar lawr y Senedd

21 Tachwedd 2016

Mae S4C yn falch o groesawu disgyblion chweched dosbarth o chwe ysgol uwchradd ar draws Cymru i roi eu barn ar amrywiaeth o bynciau gwleidyddol yn Senedd Cymru, Bae Caerdydd; a bydd y cyfan yn cael ei ddarlledu'n ecsgliwsif ar dudalen Hacio ar s4c.cymru.

Bydd y bobl ifanc yn cael profiadau bythgofiadwy o gyfrannu at drafodaethau yn Siambr Hywel, yn Nhŷ Hywel gan ddadlau yn erbyn ambell Aelod Cynulliad, ar bynciau yn amrywio o Brexit i ddefnydd pobl ifanc o'r cyfryngau cymdeithasol.

Yr ysgolion sy'n cymryd rhan yw Ysgol Gyfun Ystalyfera, Ysgol Gyfun Creuddyn, Ysgol Bro Teifi, Ysgol Uwchradd Tryfan, Ysgol Gyfun Plasmawr ac Ysgol Gyfun y Cymer.

Mae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones wedi noddi'r sesiwn yn Senedd Cymru ar ddydd Mawrth, 22 Tachwedd. Mae'r digwyddiad wedi ei drefnu ar y cyd â S4C, Cynulliad Cymru ac ITV Cymru, ac mae'r Llywydd yn croesawu'r disgyblion i ddweud eu dweud yn y Senedd.

Meddai Y Llywydd Elin Jones: "Mae'n bleser gennyf groesawu Hacio a disgyblion o bob cwr o Gymru i'r senedd eto eleni, i drafod Brexit, a phynciau eraill sy'n dylanwadu'n uniongyrchol ar eu bywydau, fel addysg, tai ac iechyd. Wythnos diwethaf, cyhoeddais fy mwriad i sefydlu Senedd Ieuenctid fydd yn galluogi trafodaeth gyson ar bynciau llosg, a sicrhau modd i lais ieuenctid Cymru ddylanwadu ar ystyriaeth y ddeddfwrfa o faterion perthnasol hefyd. Rwy'n gobeithio y bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle i'r sawl sy'n bresennol ystyried sut yr hoffent weld Senedd Ieuenctid yn datblygu cyn y byddwn yn cynnal ymgynghoriad llawn gyda phlant a phobl ifanc Cymru'r flwyddyn nesaf."

Mae'r drafodaeth yn Siambr y Senedd yn rhan o gynllun S4C gyda'r gyfres materion cyfoes Hacio i annog ieuenctid i ymwneud mwy â gwleidyddiaeth. Gelwir y cynllun yn Hacio'n Holi, a'i fwriad yw meithrin disgyblion Cymru i feddu ar sgiliau arbennig, yn cynnwys trin a thrafod pynciau llosg â ffigyrau blaenllaw Cymru. Mae'r cynllun yn cynnwys taith i gynnal trafodaethau unigol mewn ysgolion uwchradd, a'r pinacl yw'r cyfle i ddadlau ymhlith ei gilydd ar lawr y Senedd.

Yn ogystal â hyn, mae'r disgyblion hefyd wedi cael cyfle i holi pobl nodedig – yn cynnwys y Prif Weinidog, Carwyn Jones - mewn trafodaeth sydd i'w darlledu ar S4C, yn y raglen Hacio'n Holi, ar nos Iau 24 Tachwedd am 10.00 yr hwyr.

Mae Siôn Jenkins, un o gyflwynwyr Hacio, yn teimlo bod cynllun Hacio'n Holi, ar ei bedwaredd flwyddyn, yn rhoi cyfle i bobl ifanc roi eu barn ar amryw bynciau. Siôn fydd yn cadeirio'r sesiwn yn Siambr y Senedd, gyda'i gyd-gyflwynwyr Hacio, Glesni Euros a Guto Llywelyn yn ei gynorthwyo.

"Gyda'r sefyllfa wleidyddol mor anwadal, mae'n bwysig fod pobl ifanc yn ffurfio, gwerthfawrogi a lleisio barn. Mae'n ddyletswydd ar Hacio'n Holi i gynnig platfform i bobl ifanc Cymru i ddweud eu dweud ar y materion sy'n eu heffeithio nhw, a herio'r rheiny sy'n gyfrifol. Mae'n rhaid i'r rheiny sy'n meddu ar unrhyw fath o gyfrifoldeb neu ddylanwad, wrando a gweithredu ar y llais hwnnw," meddai Siôn Jenkins.

"Mae 'na sôn o hyd bod 'na ddiffyg ymgysylltu rhwng pobl ifanc a'r system wleidyddol. Yn syml, os nad yw gwleidyddion yn talu sylw i lais y bobl ifanc, wnaiff y berthynas yna fyth wella, a bydd Cymru ar ei cholled. Dyw llawer o wleidyddion ddim yn sylweddoli cymaint mae pobl ifanc Cymru yn gwybod ac yn deall."

Meddai Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc S4C: "Rydym yn falch bod Hacio'n Holi yn rhoi llwyfan i farn pobl ifanc yng Nghymru ar faterion cyfoes; llais sy'n cael ei anwybyddu'n aml gan gymdeithas. Mae'n bleser gallu cydweithio gyda'r Cynulliad Cenedlaethol ac ITV Cymru i godi ymwybyddiaeth am wleidyddiaeth a democratiaeth ymysg pobl ifanc. Rwy'n siŵr y byddwn ni'n clywed trafodaethau difyr iawn yn y Senedd, ac y byddwn ni'n darganfod ambell wleidydd ar gyfer y genhedlaeth nesaf."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?