
5 Chwefror 2026
Mae S4C yn chwilio am ddau aelod anweithredol newydd i ymuno â Bwrdd y darlledwr, a hynny ar adeg gyffrous i S4C.
Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU sy’n arwain y broses recriwtio, gyda phenodiadau’n cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon.
Mae S4C yn chwilio am unigolion ag ystod eang o sgiliau a phrofiad, yn enwedig rhai â phrofiad o gynnwys digidol neu arbenigedd cyfreithiol.
Yn fwy na dim, rydym yn chwilio am bobl sydd â brwdfrydedd dros rôl S4C fel darlledwr gwasanaeth cyhoeddus ac sy’n awyddus i helpu i lunio ei ddyfodol.
Yn y misoedd diwethaf, fe lansiodd y darlledwr ei strategaeth newydd, Mwy Na Sianel Deledu, ac mae’n parhau i weithio tuag at weledigaeth ddigidol-yn-gyntaf drwy gyhoeddi’r ddrama fertigol gyntaf yn y Gymraeg ar TikTok a chyhoeddi partneriaeth arloesol gyda BBC iPlayer.
Dywedodd Delyth Evans, Cadeirydd Bwrdd S4C: “Mae hi’n gyfnod eithriadol o gyffrous i S4C wrth i ni wireddu amcanion ein strategaeth, Mwy Na Sianel Deledu.
“Mae S4C yn fwy na sianel deledu yn barod yn y ffordd mae’n cynnwys erbyn hyn ar amryw o blatfformau, ac oherwydd y cyfraniad economaidd a diwylliannol sylweddol mae’r gwasanaeth yn ei gynnig i Gymru a’r Gymraeg.
“Wrth i ni barhau ar y siwrnai hon, rydym yn croesawu ceisiadau i gyfrannu at y weledigaeth honno a chwarae rhan yn nyfodol S4C.” Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar 27 Chwefror 2026. Mae mwy o wybodaeth yn y swydd ddisgrifiad.