
6 Chwefror 2026
Mae S4C wedi cadarnhau y bydd gemau tîm Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Dan 20 ar gael i’w ffrydio’n fyw ar YouTube am y tro cyntaf erioed, yn ogystal â’r darllediadau arferol ar deledu ac yn ddigidol ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Mae’r datblygiad yn ychwanegiad at gytundeb newydd pedair blynedd S4C gyda Rygbi’r Chwe Gwlad. Fel rhan o’r cytundeb, mi fydd S4C yn darlledu pob un o bum gêm Cymru yn fyw ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Dynion a’r Chwe Gwlad D20, yn ogystal ag uchafbwyntiau estynedig o bob gêm Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod.
Am y tro cyntaf erioed, bydd gemau Cymru D20 ar gael gyda sylwebaeth Cymraeg a Saesneg ar deledu llinol, S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon – er mwyn i gynulleidfaoedd yng Nghymru a thu hwnt ddilyn cyffro’r gystadleuaeth ar draws holl blatfformau S4C.
Sarra Elgan sy’n cyflwyno darllediadau S4C o bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Dynion, gyda Gareth Charles yn sylwebu a Lauren Jenkins yn gohebu. Mae’r gwesteion yn cynnwys Jonathan Davies, Stephen Jones, Ken Owens, Robin McBryde, Sioned Harries a Jamie Roberts.
Lloyd Lewis fydd yn cyflwyno gemau’r Chwe Gwlad Dan 20 gyda’r tîm sylwebu yn cynnwys Rhodri Gomer a Gruff McKee, gyda Dave Rogers yn arwain y sylwebaeth Saesneg. Ymysg y gwesteion mae Billy McBryde, Theo Cabango, Jonathan ‘Fox’ Davies a Dyddgu Hywel.
Dywedodd blaenasgellwr Cymru a chapten y Scarlets, Josh Macleod:
"Prif ffocws y bencampwriaeth yma yw adeiladu ar yr autumns a trio perfformio pob wythnos ac wedyn adeiladu ar bob perfformiad wrth i ni fynd trwy'r bencampwriaeth."
Wrth drafod pwysigrwydd y cefnogwyr, ychwanegodd:
"Mae'n meddwl y byd yn y Chwe Gwlad – maen nhw'n bwysig iawn i ni, ni'n gallu clywed nhw o'r stands ac mae e'n bwysig iawn."
Dywedodd bachwr Cymru a’r Scarlets, Ryan Elias, wrth adlewyrchu ar bencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness:
"Fi wedi bod yn lwcus a chwarae mewn cwpwl o gemau’r Chwe Gwlad Guinness dros y blynyddoedd – ond mae e yr un mor sbesial i fi fel chwaraewr nawr."
"O'dd e'n freuddwyd i fi yn tyfu lan – fi'n cofio bod yn fachgen ifanc yn gwylio gemau’r Chwe Gwlad ac o ni wastad mas y bac yn cicio'r bêl rownd yn gobeithio byddwn ni'n cyrraedd y lefel yma a nawr i fod 'ma – mae e'n sbesial iawn."
"Mae pawb ar top ei gêm nhw – yn enwedig yn y Chwe Gwlad Guinness, mae pob tîm moyn ennill ac mae lefel o intensity yn y gemau – mae e'n ffyrnig ac yn dod mas a rhywbeth gwahanol i chi fel chwaraewyr.”
Mae darllediadau S4C o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness yn cael eu cynhyrchu gan Whisper Cymru.