
3 Mawrth 2026
Gydag etholiad Senedd dyngedfennol ar y gorwel, bydd gwasanaeth Newyddion S4C yn cwestiynu, craffu ac yn torri’r newyddion diweddaraf, a bydd gwledd o gynnwys testun a fideo ar draws y platfformau digidol.
Bydd yr arlwy yn cynnwys map rhyngweithiol o’r etholaethau, darpariaeth newydd ar gyfer fideos fertigol a ffrwd byw ar ddiwrnod yr etholiad a fydd yn crynhoi’r holl ganlyniadau ar ap a gwefan Newyddion S4C.
Penododd S4C Jacob Morris fel gohebydd gwleidyddol digidol-yn-gyntaf ym mis Medi, mewn partneriaeth â BBC Cymru, a fydd yn teithio ar draws Cymru i ddod â’r newyddion diweddaraf ar lwyfannau digidol Newyddion S4C.
Mae modd dilyn Newyddion S4C ar Facebook, Instagram, TikTok, Threads, Bluesky ac X.
Ar deledu, bydd rhaglen Newyddion S4C yn ymweld â phob etholaeth cyn diwrnod yr etholiad, ac mae’r daith honno o gwmpas Cymru eisoes wedi dechrau.
Eleni hefyd, am y tro cyntaf, bydd S4C a’r BBC yn cydweithio ar ddadl yr arweinwyr a fydd yn darlledu’n fyw ar S4C ar 23 Ebrill, yn ogystal â phlatfformau digidol S4C a’r BBC ac ar BBC Radio Cymru, gyda Bethan Rhys Roberts yn cyflwyno.
Bydd cyfres arbennig o Y Byd yn ei Le yn craffu’n fanwl ar bolisïau pob un o’r prif bleidiau.
Bydd Pawb a’i Farn yn darlledu rhaglen arbennig ar 19 Mawrth, mewn partneriaeth â’r Urdd, fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol holi’r gwleidyddion a dweud eu dweud, gyda chynulleidfa o hyd at 200 o ddisgyblion chweched dosbarth a cholegau addysg bellach.
Gyda'r oed pleidleisio wedi gostwng i 16 adeg yr Etholiad Senedd ddiwethaf, bydd newyddiadurwyr Hansh Dim Sbin yn rhoi'r chwyddwydr ar y straeon sydd o bwys i bobl ifanc, a bydd Newyddion Ni hefyd yn addysgu ac yn dod â’r ymgyrch yn fyw i blant.
Ac ar ddiwrnod y cyfri, bydd y rhaglen ganlyniadau, Etholiad Senedd 2026, yn dechrau am 11.00 ar 8 Mai, gyda Bethan Rhys Roberts a Rhodri Llywelyn yn cyflwyno’r canlyniadau o Gaerdydd, a Catrin Haf Jones a Richard Wyn Jones yn dadansoddi beth fydd hyn yn ei olygu i dirlun gwleidyddol Cymru.
Bydd mwy o ohebwyr nag erioed yn cael yr ymateb llawn o’r canolfannau cyfri reit ar draws Cymru, ac o’r Senedd ym Mae Caerdydd i Holyrood yn yr Alban, lle bydd gwleidyddion hefyd yn cael eu hethol.
Dywedodd Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C: “Mae hon yn etholiad wahanol i’r arfer, gyda newidiadau i’r system bleidleisio a mwy o aelodau nag erioed yn cael eu hethol i’r Senedd.
“Bydd ein newyddiadurwyr a gohebwyr yn dilyn y cyfan ar eich rhan, gan dorri’r datblygiadau diweddaraf ac esbonio beth yn union maen nhw’n eu golygu i Gymru.”
Ychwanegodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C: “Mae S4C yn falch o gyhoeddi’r arlwy eang o gynnwys etholiadol sydd ar gael ar draws ein holl blatfformau.
“Fe gewch chi bob tro yng nghynffon yr ymgyrch a gallwch ddibynnu ar gyflwynwyr a gohebwyr profiadol i ofyn y cwestiynau pigog, ac i ddal y gwleidyddion i gyfri.
“Felly, boed ar ap Newyddion S4C, ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar deledu, gallwch ddilyn yr holl drin a thrafod ar y platfform o’ch dewis chi.”