
11 Mawrth 2026
Guto Harri sydd yn cyflwyno’r ail raglen yng nghyfres newydd ac arloesol S4C, Stori’r Iaith, gan rannu o’i brofiadau fel ‘Cymro alltud’ a’i rwystredigaeth nad pawb sydd yn pasio’r iaith i’w plant.
"Dyw e ddim yn hawdd magu plant tu fas i Gymru i siarad Cymraeg," meddai Guto, "ond dwi'n gwybod bod lot o bobol wedi llwyddo i wneud hynny yn llwyddiannus iawn ar draws y byd. Ond mae ’na rai pobol mae'n syndod, mae'n sioc, mae'n siom ofnadwy eu bod nhw'n dod â phobol i'r byd a ddim yn pasio ’mlaen yr iaith."
Yn Stori’r Iaith mae Guto’n myfyrio ar ei gysylltiad dwfn ei hun â’r iaith wrth ddatgelu’r rôl allweddol a chwaraeodd siaradwyr Cymraeg tu hwnt i Gymru.
“Mae’r iaith Gymraeg yn gwbl sylfaenol i bwy ydw i,” eglura Guto.
Er iddo dreulio rhan fwyaf o’i fywyd y tu allan i Gymru, mae Guto’n dweud bod y pellter wedi atgyfnerthu ei hunaniaeth Gymreig.
“Dwi’n Gymro sy’n byw yn Llundain ac yn teimlo’n fwy o Gymro nag erioed,” meddai, gan ychwanegu bod siaradwyr Cymraeg yn Llundain wedi chwarae rhan ganolog yn hanes yr iaith dros ganrifoedd, “Ryn ni hefyd yn rhan o hanes yr iaith Gymraeg.”
Mae’r rhaglen yn archwilio dylanwad rhyfeddol cymunedau Cymraeg Llundain, o gymdeithasau radical y 18fed ganrif i’r diwydiant cyhoeddi cynnar a helpodd i safoni a lledaenu’r iaith. Mae Guto’n olrhain yr hanes hwn gyda chyfraniadau gan arbenigwyr amlwg gan gynnwys Dr Dylan Foster Evans, Dr Marion Löffler a Dr Llewelyn Hopwood.
Mae’r rhaglen yn sôn am y ffaith bod rhai o sefydliadau diwylliannol mwyaf eiconig Cymru - gan gynnwys yr Eisteddfod a’r Orsedd - yn ddyledus mewn rhan fawr i radicaliaeth wleidyddol yn Llundain.
Mae Guto’n disgrifio sut roedd Iolo Morganwg a Chymdeithas y Cymmrodorion yn cael eu gyrru gan ddelfrydau Chwyldro Ffrainc, gan ddefnyddio iaith rhyddid a democratiaeth i ail-lunio bywyd diwylliannol Cymru. Fel sydd i’w gweld yn y rhaglen:
“Mae’r cymdeithasau yn Llundain yn radicaleiddo… ac yn penderfynu ailsefydlu’r Eisteddfod fel rhywbeth cenedlaethol ond radical,” eglura Dr Marion Löffler.
“Dwi byth wedi cael y cynnig i ymuno â’r Orsedd,” meddai Guto “Dwi ddim yn siwr pam, achos dwi wedi trio fy ngorau i fod yn rhyw fath o lysgennad i Gymru y tu fas i Gymru am ddegawdau nawr. Falle bod ambell i bennod yn fy mywyd ddim cweit yn plesio’r sefydliad Cymraeg!”
Mae’r rhaglen hefyd yn gweld Guto yn myfyrio ynghylch ei amser yng nghanol gwleidyddiaeth y DU. Mae’n cofio bod ymhlith yr ychydig o leisiau Cymraeg yng nghylchoedd dylanwadol Downing Street:
“Sdim lot o Gymry Cymraeg… wedi bod rownd y bwrdd mawr,” meddai, gan nodi pwysigrwydd cael safbwyntiau Cymreig yn bresennol pan mae penderfyniadau mawr yn cael eu gwneud.
Mae Guto hefyd yn disgrifio yr oriau dirifedi a’r gwaith caled tra yn gweithio i Boris Johnson, rhywun yr oedd yn ei adnabod ers pedwar degawd, gan ddweud:
“Wy’n credu mod i erioed wedi gweithio oriau mor hir… ond nes i fwynhau bob eiliad.”
Mae’r cyn Brif Weinidog yn ymddangos yn y rhaglen hefyd, ac yn sôn am ei ymdrechion i ddysgu rhywfaint o Gymraeg a’i ryfeddod at ddylanwad Lladin ar yr iaith. Meddai Boris:
“Well I love Welsh and I made a huge, a heroic effort to try to master Welsh when I decided to become an MP for a constituency in Clwyd South and I learnt various phrases like Peint o gwrw chwerw os gwelwch yn dda and I was fascinated by how many Latin words are embedded into Welsh like uffernol.
“I love learning it but deploying it I found quite difficult...”
Wrth wraidd y bennod mae balchder Guto o drosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf, er ei fod yn magu ei deulu y tu allan i Gymru, gan bwysleisio ei benderfyniad i gadw’r iaith yn fyw yn ei deulu, meddai: “Fi’n Gymro dim ots pa ochr i’r ffin ydw i.”
Mae pennod Guto o Stori’r Iaith yn bersonol ac yn hanesyddol, gan olrhain stori sy’n ymestyn o lawysgrifau canoloesol i Lundain fodern, o chwyldro gwleidyddol i hunaniaeth deuluol. Ac yn anad dim arall, mae’r iaith yn fyw.
“Mae’r diwylliant aruchel, y gwareiddiad, yr hanes, y traddodiadau, y llên mewn dwylo da iawn” meddai. “Ond mae’r mae’r diwylliant poblogaidd ar garlam. Mae’r Gymraeg hyd yn oed yn cool neu’n secsi ac mae na fwrlwm. Dwi’n gallu teimlo ein bod ni yma o hyd, bod yr iaith Gymraeg yn fyw.”