Y Wasg

Y Wasg

Rhaglenni S4C yn derbyn 17 enwebiad yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026

20 Mawrth 2026

Mewn blwyddyn gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau, mae rhaglenni S4C wedi derbyn cyfanswm o 17 o enwebiadau yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026.

Mae’r Ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddol er mwyn dathlu a hyrwyddo’r diwylliannau a'r ieithoedd Celtaidd drwy deledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.

Ymhlith y cynnwys a’r unigolion sydd wedi eu henwebu yn 2026, mae Sgwrs Dan y Lloer: Noel Thomas (Tinopolis) yn y categori Adloniant Ffeithiol, cyfres Amour & Mynydd (Darlun) yn y categori adloniant, Gwlad Bardd (Boom Cymru) yn y categori Rhaglen Ddogfen Nodwedd a’r Llewod v Ariannin (Iris Productions) yn y categori Digwyddiadau Byw. Mae Chris Roberts (Cwmni Da) a Mari Grug (Tinopolis) wedi derbyn enwebiadau yn y categori Cyflwynwyr, tra bod cyfres ddogfen Gisda (Tŷ’r Ddraig) wedi ei henwebu yng nghategori Ysbryd yr Ŵyl.

Meddai Llion Iwan, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C:

“Mae cynifer o enwebiadau mewn sawl categori yn tystio at gyfoeth talent y sector yma yng Nghymru, ac i’r amrywiaeth o gynnwys rydym yn ei ddarparu’n flynyddol i’n gwylwyr. Mae enwebiadau’r Ŵyl yn gyson o safon arbennig o uchel gyda goreuon y diwydiannau creadigol trwy’r holl wledydd Celtaidd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd. Llongyfarchiadau i bob cwmni sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a phob hwyl iddynt yn Belfast."

Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026: Rhestr Lawn o Enwebiadau Rhaglenni S4C

Animeiddio: Egin Bach (Bumpy Box/S4C)

Adloniant (Sgrin): Amour & Mynydd (Darlun/S4C)

Rhaglen Fer: Teth (Beastly Media/S4C)

Adloniant Ffeithiol: Sgwrs Dan y Lloer: Noel Thomas (Tinopolis/S4C)

Comedi (Sgrin): Gwagle (Boom Cymru/S4C)

Digwyddiad Byw: Llewod v Ariannin (Iris Productions/S4C)

Rhaglenni Plant: Caban Banana Gareth yr Orangutan (Cwmni Da/S4C) & Y Coridor (Boom Cymru/S4C)

Ffurf Fer: Beth yw Pwynt yr Eisteddfod? (Cwmni Da/S4C) & Yr Awdl (Twm Twm/S4C)

Celfyddydau: Ffa Coffi Pawb (Ie Ie Productions/S4C)

Rhaglen Ddogfen Nodwedd: Gwlad Bardd (Boom Cymru/S4C)

Rhaglen Ddogfen Sengl: Mari Grug: Un Dydd ar y Tro (Tinopolis/S4C)

Cyfres Ddrama: Ar y ffin (Severn Screen/S4C)

Cyflwynwyr: Chris Roberts (Cwmni Da/S4C) & Mari Grug (Tinopolis/S4C)

Ysbryd yr Ŵyl: Gisda (Tŷ’r Ddraig/S4C)

Caiff Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2026 ei chynnal yn y MAC yn Belfast, rhwng 2-4 Mehefin.