
10 Ebrill 2026
Mae S4C a Rhodri Williams, drwy eu hyswirwyr cyfatebol, wedi dod i gytundeb â Llinos Griffin-Williams. Mae hyn yn dod â’r holl achosion gan Ms Griffin-Williams yn erbyn S4C a Rhodri Williams i ben.
Mae telerau’r cytundeb yn gyfrinachol, ac mae’r setliad wedi’i gyrraedd heb unrhyw gydnabyddiaeth o atebolrwydd.
Mae’r partïon wedi dod i’r casgliad ei fod er budd pawb i ddatrys yr anghydfod er mwyn osgoi achos cyfreithiol hirfaith. Maent yn falch o fod wedi cyrraedd datrysiad sy’n galluogi pawb i symud ymlaen.
Ni fydd S4C yn gwneud unrhyw sylwadau pellach ar y mater.