Y Wasg

Y Wasg

S4C yn ennill yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Cymru

1 Mai 2026

Mae S4C wedi ennill dwy wobr yng Ngwobrau Adnoddau Dynol Cymru.

Enillodd S4C y wobr yn y categori Trawsnewidiad a Newid, tra bo Nadine Beaton, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant S4C, hefyd wedi ennill y wobr Rhagoriaeth mewn Arweinyddiaeth AD.

Cafodd griw rhaglen hyfforddiant S4C Campus, a gafodd ei dylunio i drawsnewid y diwylliant mewnol yn S4C, eu henwebu mewn cyfanswm o bedwar o gategorïau.

Cafodd S4C Campus enwebiad yng nghategori Dysgu a Datblygiad a bu enwebiad hefyd i Dr Ioan Rees o SYCOL, arweinydd y rhaglen, ar gyfer y wobr Impact Unigol.

Cafodd y gwobrau eu cynnal yng Ngwesty’r Marriott, Caerdydd, ar ddydd Gwener, 1 Mai.

Dywedodd Nadine Beaton, Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant S4C: “Tra bo'r enwebiadau hyn yn taflu goleuni ar waith y timoedd Campus a Phobl a Diwylliant, maen nhw hefyd yn adlewyrchu rhywbeth ehangach - y ffordd mae cyd-weithwyr ar draws S4C wedi cofleidio syniadau, datblygu sgiliau, a chefnogi newid cadarnhaol yn ein diwylliant.

“Mae'n dda gweld unigolion a thimoedd o fewn S4C yn gweithredu'r hyn maen nhw wedi ei ddysgu yn eu gwaith o ddydd i ddydd ac edrychwn ymlaen i adeiladu ar y dysgu a pharhau i ddatblygu diwylliant mewnol sydd yn dathlu pawb yn S4C.”