S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cynhyrchu

Cynnwys Arlein

Mae cynnwys ar-lein yn rhan greiddiol o strategaeth gynnwys S4C ac rydym yn edrych am gyfleoedd i ddefnyddio ystod eang o lwyfannau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Byddwn yn comisiynu cynnwys ar-lein yn gyntaf yn bennaf, gan dargedu cynulleidfaoedd penodol mewn ffyrdd na ellir gwneud ar deledu, gan ymgysylltu â'r gynulleidfa a sicrhau ein bod yn arloesi a datblygu.Ochr yn ochr â hyn byddwn yn darparu cynnwys ar-lein cefnogol i raglenni a brandiau S4C er mwyn cyfoethogi a dyfnhau profiad gwylwyr, gan greu'r sgwrs a meithrin perthynas agosach gyda'r gwylwyr.

Hansh

Trwy frand Hansh rydym yn anelu at gynulleidfa 16-34 oed gyda chynnwys ar-lein yn gyntaf.Mae'r ystod genres yn eang ond rydym yn enwedig yn edrych am y canlynol:

  • Comedi cyfoes, bachog a rhanadwy;
  • Straeon ffeithiol cryf, gweledol gyda chalon fawr am bynciau sydd yn effeithio ar fywydau'r oedran targed.Bydd y straeon yn y foment, ar leoliad, ac yn dangos ymwneud pobol gyda'i gilydd;
  • Cynnwys sy'n gweithio gyda phersonoliaethau unigryw a brwdfrydig dros eu maes sy'n dod â dilyniant ac ymwneud cyfryngau cymdeithasol gyda nhw;
  • Cynnwys sydd yn cyflwyno gwybodaeth mewn ffordd ffraeth ac afieithus am bynciau fel llyfrau, hanes, iaith, gwyddoniaeth, neu farddoniaeth mewn arddull frodorol i'r cyfryngau cymdeithasol.

Mae amrywiaeth lleisiau a chynrychioli cyfoeth profiadau pobol ifanc yn hollbwysig i Hansh ac rydym yn awyddus iawn i roi llais ar a thu ôl y camera i gyfranwyr BAME, LGBT a phobl sydd ag anabledd.Dylai unrhyw gynnwys anelu i greu ymateb cryf boed hynny'n grio, rhyfeddu, chwerthin neu daro nerf gan ddweud rhywbeth am Gymru gyfoes yr oedran darged. Cynhelir dwy rownd gomisiynu y flwyddyn.

Chwaraeon

Dros y flwyddyn rydym yn edrych i gomisiynu ffrydiau byw o chwaraeon sydd efallai ddim yn y brif ffrwd ar y sianel gan arbrofi gyda thechnegau cynhyrchu digidol newydd ac arloesol. Enghraifft o hyn yn 2017 oedd ffrwd fyw aml-gamera o Triathlon Caerdydd, a gynhyrchwyd gyda data symudol yn lle cyswllt lloeren.Cynnwys atodol i raglenni

Rydym yn parhau i gefnogi rhaglenni llinyddol gyda chynnwys gwreiddiol ar-lein neu gostau golygu ar gyfer y we lle bo hynny'n addas i'r rhaglen.

Nid ydym yn edrych i dalu am ymgyrchoedd marchnata i raglenni, ond cynnwys digidol sydd yn gallu sefyll ar ei draed ei hun, ac sydd wedi ei gynhyrchu yn benodol ar gyfer cynulleidfa ar-lein, ac all ymestyn y brand.

Gemau

Mae gemau yn parhau i fod yn faes pwysig i S4C, yn arbennig ym maes plant gyda lansio ap Byd Cyw ym 2017 sy'n rhoi'r posibiliad o ychwanegu gemau newydd dros y blynyddoedd nesaf.

Byddwn hefyd buddsoddi yn ein gemau ar wefannau Cyw a Stwnsh a sicrhau datblygiad i gemau dysgu Cyw yn 2018/19.

Arloesi / Ymchwil a Datblygu

Mae ymchwil a datblygu yn hanfodol o ran treialu technolegau newydd a ffyrdd newydd o ddosbarthu cynnwys / cyrraedd cynulleidfaoedd Cymraeg. Rydym yn ymroddedig i wneud hyn drwy'r holl waith cynnwys ar-lein lle bo modd, gan edrych i ddefnyddio technegau newydd.

Fodd bynnag byddwn hefyd yn edrych i gomisiynu rhai prosiectau sydd ar flaen y gad ac sydd yn gwthio S4C i dir newydd, gan geisio profi a yw'r dechnoleg yn berthnasol i S4C yn y dyfodol o ran cynnwys, ac archwilio ac ydyw yn gyfrwng y dylem fod yn buddsoddi rhagor ynddo er mwyn cyrraedd ein cynulleidfa.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?