S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Toriadau pellach i gyllid S4C gan Lywodraeth y DU

25 Tachwedd 2015

Mae S4C wedi cael ar ddeall y bydd yr arian y mae'n ei dderbyn gan yr Adran dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Celfyddydau yn cael ei dorri dros y pedair blynedd o 2016/17 hyd at 2019/2020. Bydd toriadau cynyddol yn digwydd dros y cyfnod gan ddod a'r cyfraniad blynyddol i lawr o'r £6.7m presennol i £5m erbyn 2019/20.

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones; "Mae'r penderfyniad i dorri'r cyllid mae S4C yn ei dderbyn gan y Llywodraeth ganolog yn fater o siom i ni, yn enwedig gan ei fod yn doriad sy'n sylweddol uwch na'r toriad cyffredinol y mae'r adran wedi ei dderbyn.

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn rhoi pwyslais hyd yn oed mwy tyngedfennol ar ganlyniad y trafodaethau rydym yn eu cynnal gydag Ymddiriedolaeth y BBC wrth i ddyfodol ariannu S4C drwy ffi'r drwydded gael ei benderfynu. Ar hyn o bryd mae S4C yn derbyn tua 90% o'i chyllid drwy ffi'r drwydded ac mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi awgrymu y dylai S4C ddod o hyd i arbedion tebyg i'r arbedion y disgwylir i'r BBC eu gweithredu.

"Er y bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i flaenoriaethu'r hyn sy'n cael ei wario ar gynnwys ac ar safon rhaglenni, mae'n anochel y bydd gan doriadau o'r math yma oblygiadau ar gyfer ystod ac amrywiaeth y gwasanaeth, a'r gallu i fanteisio ar gyfleodd newydd.

"Unwaith y bydd y darlun llawn yn glir, bydd trafodaethau'n cael eu cynnal gyda chynhyrchwyr a gyda staff i drafod y dewisiadau anodd sydd o'n blaenau."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?