S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ap S4C Dal Ati yn torri tir newydd wrth helpu gwylwyr

23 Ionawr 2015

Mae S4C wedi cyhoeddi datblygiad cyffrous newydd ym maes dysgwyr yng Nghymru, gyda diweddariad arloesol i ap S4C Dal Ati.

Bydd yr ap yn cyflwyno defnydd ail sgrin - dyma'r tro cyntaf i'r datblygiad blaengar ddigwydd ym maes oedolion yn y Gymraeg.

Bellach gall dysgwyr o allu canolradd i uwch, wylio pennod o'r gyfres ddrama Nos Sul boblogaidd Gwaith Cartref, a derbyn neges ar eu ffôn clyfar neu dabled gyda geiriau i'w cynorthwyo yn ystod y rhaglen.

Bydd y geiriau hyn yn ymddangos ar y ffôn ychydig eiliadau cyn cael eu dweud ar y sgrin, ac yn gymorth i ddysgu geiriau newydd. Y gobaith yw y bydd yn ehangu geirfa'r dysgwyr wrth iddyn nhw wylio un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C, Gwaith Cartref, a ddarlledir am 9:00 nos Sul.

Mae'r ap yn torri tir newydd ym maes dysgwyr yng Nghymru, a bwriad yr ap yw ei ddefnyddio ar lawr y dosbarth yn ogystal ag yn amser sbâr y dysgwr. Nod yr ap yw cynyddu hyder y dysgwr, drwy ddull hwyliog. Gallwch lawrlwytho'r ap o siop Apple neu Google Play ar eich ffôn clyfar neu dabled yn rhad ac am ddim.

Mae'r ap yn cynnig cwisiau rhyngweithiol am Gwaith Cartref, yn ogystal â chefndir diddorol y cymeriadau a'r gyfres. Dyma'r tro cyntaf i S4C greu ap o'r fath ar gyfer oedolion, er bod datblygiadau tebyg eisoes wedi eu creu i blant.

Ond nid cynnwys Gwaith Cartref yn unig sydd ar yr ap, mae gwybodaeth gefndir ddifyr hefyd ar yr ap am raglenni dysgwyr S4C. Y rhaglenni cyfredol sy'n rhan o arlwy Dal Ati ar ddydd Sul yw Bore Da sy'n darlledu am 10:30, gydag Elin Llwyd ac Alun Williams yn cyflwyno. Ac yna am 11:30 darlledir y gyfres Adre, ble aiff y cyflwynydd Nia Parry i fusnesa yn nhai amrywiol sêr Cymreig.

Gallwch dderbyn manylion pob rhaglen neu eitem sydd yn rhan o’r arlwy, ynghyd â derbyn manylion ychwanegol fel ryseitiau bwyd, ymarferion iaith a geirfa i gynorthwyo gyda phob agwedd o ddysgu a datblygu defnydd yr iaith.

Meddai Comisiynydd Dysgwyr S4C, Sioned Wyn Roberts;

"Ers i Dal Ati gael ei lansio ym mis Medi 2014, mae defnydd digidol o’r gwasanaeth wedi mynd o nerth i nerth, a rŵan rydyn ni wedi symud ymlaen i gynnig adnodd newydd a chyffrous. O nos Sul ymlaen, mae modd i ddysgwyr neu wylwyr llai rhugl ddefnyddio'r ap fel adnodd ail-sgrin wrth wylio’r ddrama boblogaidd Gwaith Cartref. Bydd geirfa ac ymarferion yn pingio ar y sgrin fach yn ystod y darllediad ar y teledu. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn ac yn gyfle i gynulleidfa newydd fwynhau drama Gwaith Cartref gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf."

diwedd

 

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?