S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Stwnsh - Gwasanaeth aml-blatfform i blant ar ei newydd wedd

31 Mawrth 2015

Gemau, apiau, fidios ecsgliwsif ac wrth gwrs rhaglenni difyr o bob math – a’r cwbl ar gael yn y ffordd mae plant a phobl ifanc heddiw am gael gafael arnyn nhw. Dyna wasanaeth Stwnsh S4C ar ei newydd wedd.

Drwy ffôn glyfar, dabled, cyfrifiadur neu deledu, fe fydd Stwnsh yn ffenest i lond byd o ddifyrrwch bob awr o’r dydd.

Bydd gwasanaeth S4C i blant a phobl ifanc rhwng 7 a 13 oed yn ymddangos ar ei newydd wedd ar-lein ac ar y sgrin o ddydd Llun 13 Ebrill.

Gyda mwy o wasanaethau ar-lein a digidol nag erioed o’r blaen, fe fydd naws a theimlad cyfoes a newydd i Stwnsh. Ewch i s4c.cymru/stwnsh i gael cipolwg o'r cynnwys cyffrous.

Meddai Comisiynydd Cynnwys Plant S4C, Sioned Wyn Roberts, "Fe fydd Stwnsh yn cynnig gwasanaeth digidol ar raddfa fwy fyth ac mae delwedd a brand y gwasanaeth yn adlewyrchu hynny. Rydyn ni wedi gwrando ar blant a phobl ifanc Cymru ac mae rhaid i bethau symud gyda’r oes. Mae mwy a mwy o blant a phobl ifanc yn defnyddio cyfarpar fel ffonau clyfar a thabled a bydd rhaglenni’n eu tynnu’n naturiol i fyd digidol Stwnsh gyda dewis o apiau, gemau a rhaglenni ecsgliwsif."

Oriau darlledu Stwnsh fydd 5.00-6.00 ar ddydd Llun i ddydd Gwener. Bydd rhaglenni Stwnsh yn parhau bob bore Sadwrn gan ddefnyddio dolenni graffeg gyda naws fwy aeddfed a chyfoes yn hytrach na darlledu’n fyw o’r stiwdio.

Fe fydd cynnwys ecsgliwsif ar gael ar wefan Stwnsh a’r gwasanaeth digidol gan gynnwys TAG ar y we ar ôl 6.00 bob nos Fawrth, gemau fel Madron, Brwydr y Bwystfil a Minecraft a chlipiau cerddoriaeth gyfoes.

Fel rhan o arlwy newydd Stwnsh bydd rhaglenni poblogaidd fel TAG, Fi yw’r Bos, yn ogystal â chyfres newydd o'r enw Llond Ceg, gyda’r cyflwynwyr Aled Haydn Jones a Geraint Hardy a’r gantores Kizzy Crawford yn cyflwyno.

Fe fydd hefyd cyfle i gymryd rhan mewn cystadleuaeth gyffrous Stwnsh i ennill pecynnau sydd yn cynnwys gwobrau fel trip teulu i Wersyll yr Urdd Llangrannog, tocynnau i gem rygbi neu iPad.

Fe fydd newidiadau cyffrous hefyd i wasanaeth Cyw ar gyfer y plant iau ac ar 13 Ebrill bydd S4C yn croesawu cyflwynydd newydd. Mae Catrin Herbert, sydd yn adnabyddus fel cantores, yn 22 oed ac yn dod o Gaerdydd. "Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddechrau. Mae Cyw yn wasanaeth llwyddiannus iawn ac mae’n fraint cael ymuno gyda’r criw," meddai Catrin.

Oriau darlledu Cyw fydd 7.00-1.00 a 4.00-5.00 o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fe fydd cyflwynwyr newydd eraill yn ymuno â hi, ond am y tro fe fydd Catrin, yng nghwmni Einir, Gareth a Rachel, yn arwain plant i fyd hudol Cyw.

Boom Plant, sy’n rhan o gwmni cynhyrchu Boom Cymru, sy’n gyfrifol am gynhyrchu gwasanaethau Cyw a Stwnsh.

Meddai Angharad Garlick o Boom Plant, "Fe fydd Catrin yn gaffaeliad i dîm Cyw. Fe fydd rhagor o wynebau newydd yn ymuno â hi yn ystod y misoedd nesaf, felly byddwch yn barod am ragor o newyddion cyffrous."

Lansiwyd Cyw yn 2008 a Stwnsh yn 2010 ac mae’r gwasanaethau wedi profi'n hynod lwyddiannus. Mae Stwnsh yn wasanaeth i blant rhwng 7 a 13 oed tra bod Cyw wedi ei anelu at blant hyd at 6 oed.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?