S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enwebiadau rhyngwladol i S4C am waith hyrwyddo Y Gwyll

26 Tachwedd 2015

Mae S4C wedi ei henwebu am wobr ddrama ryngwladol gan C21 Media am yr ymgyrch farchnata i hyrwyddo cyfres ddiweddaraf Y Gwyll/Hinterland.

Bydd seremoni Gwobrau Drama Ryngwladol C21 Media yn digwydd yn Llundain ar nos Fercher 2 Rhagfyr, ac mae S4C yn gobeithio am ail fuddugoliaeth o'r bron wedi i'r sianel ddod i'r brig yn yr un categori y llynedd.

Y Gwyll yw un o brif gyfresi drama'r sianel sydd wedi denu sylw'r byd wrth iddi gael ei gwerthu i ddarlledwyr yn rhyngwladol. Yn ogystal â chynnig drama o safon uchel, mae'r gyfres wedi denu sylw at Gymru a'r iaith Gymraeg, yn ogystal â hybu enw S4C fel sianel sy'n comisiynu cynnwys i gystadlu â darlledwyr ar draws y byd.

Dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C; "Rydw i'n falch iawn bod tîm cyfathrebu S4C wedi sicrhau’r enwebiad rhyngwladol yma, a hynny am yr ail flwyddyn o'r bron. Fel un o uchelfannau amserlen y sianel ar gyfer 2015, roedd hyrwyddo ail gyfres Y Gwyll yn galw am ymgyrch afaelgar a chreadigol ac fe lwyddwyd i ddal dychymyg y gwylwyr a chreu cynnwrf.

"Mae Y Gwyll yn denu diddordeb mawr ar draws y byd, yn ogystal â dod a buddiannau economaidd yn lleol, gyda S4C, Cymru a'r iaith Gymraeg yn ganolog i'r sylw rhyngwladol. Mae llwyddiant y gyfres hon yn dangos ar ei orau yr effaith economaidd a diwylliannol bellgyrhaeddol sy'n deillio o fuddsoddiad S4C mewn cynnwys, a'r gwaith o’i hyrwyddo."

Cafodd ail gyfres Y Gwyll/Hinterland ei hariannu gan y partneriaid S4C a BBC Cymru Wales, gydag all3media International, Tinopolis a Chyllid Busnes Cymreig hefyd yn cyfrannu; a chafodd ei chynhyrchu gan Fiction Factory.

Ym mis Tachwedd cyhoeddwyd y bydd Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd am drydedd gyfres, gyda ffilmio i ddechrau yng Ngheredigion ym mis Ionawr 2016.

Y partneriaid darlledu S4C a BBC Cymru, ynghyd ag all3media International, Tinopolis, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C a Chyllid Busnes Cymru sy’n cyd-ariannu’r drydedd gyfres a’r cwmni teledu blaengar Fiction Factory yw’r cynhyrchwyr. Bydd Cyfres 3 yn cael ei chynhyrchu gan gyd-grewyr y gyfres Ed Talfan ac Ed Thomas.

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?