S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Naw enwebiad i gynnwys S4C yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd

04 Mawrth 2016

Mae S4C wedi derbyn naw enwebiad ar gyfer y Gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2016.

Yn nhre’ Dungarvan yn Sir Waterford, Gweriniaeth Iwerddon mae’r ŵyl yn cael ei chynnal eleni a hynny fis nesaf, 20-22 Ebrill - ac mae rhaglenni’r sianel ar restr fer ar gyfer naw Gwobr TORC yr ŵyl.

Fe fydd cynhyrchwyr y ddrama Y Streic a Fi (Boom Cymru) yn brwydro am wobr yn y categori Drama Sengl.

Mae drama deledu gyntaf y bardd Gwyneth Lewis, Y Streic a Fi am Streic y Glowyr 1984-85 eisoes wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Ond fe fydd yn cystadlu yn erbyn y ffilm bwerus, dywyll Yr Ymadawiad (cynhyrchiad Severn Screen mewn cydweithrediad â Boom Pictures a Ffilm Cymru Wales ar gyfer S4C). Fe fydd y ffilm yn mynd ar daith sinematig eleni cyn cael ei darlledu ar S4C.

Hanes difyr taith tîm rygbi Llanelli tu hwnt i’r Llen Haearn yw Y Gêm Gudd: Llanelli v USSR (cynhyrchwyr Tinopolis) ac fe fydd yn gobeithio ennill yn y categori Chwaraeon.

Y gyfres ddychmygus #Fi (cynhyrchwyr Boom Cymru), sy’n adrodd hanes difyr gwahanol blant yng Nghymru, sydd wedi derbyn enwebiad yn y categori Plant. Mae’r gyfres eisoes wedi ennill gwobr BAFTA Cymru y llynedd.

Mae’r gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar (ITV Cymru) wedi cael enwebiad yn y categori Materion Cyfoes am y rhaglen ddirdynnol am iechyd meddwl, Y Byd ar Bedwar: Y Felan a Fi. Dyma raglen gafodd lwyddiant yng ngwobrau BAFTA Cymru y llynedd hefyd.

Mae dwy gyfres gyntaf Y Gwyll/Hinterland eisoes wedi ennill llu o wobrau ac mae’r ail gyfres yn brwydro am wobr yn y categori Cyfres Ddrama. Mae hwn yn gynhyrchiad gan Fiction Factory, sydd wedi ei ariannu gan y partneriaid S4C a BBC Cymru Wales, gydag all3media International, Tinopolis a Chyllid Busnes Cymreig hefyd yn cyfrannu.

Cafodd y sioe Nadolig Bryn Terfel (Boom Cymru/Harlequin Media) ei ffilmio yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru ac yma mae’n ennill ei lle yn y categori Adloniant. Mae’r gyfres hanes a gwyddoniaeth arloesol DNA Cymru (cynhyrchwyr Green Bay Media) wedi ei henwebu yn y categori Cyfres Ffeithiol tra mai hanes antur dau ddringwr o ddwy genhedlaeth, Patagonia Eric Jones ac Ioan Doyle, sy’n cynrychioli’r sianel yn y categori Dogfen Ffeithiol Sengl.

Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Llongyfarchiadau i’r holl gynhyrchwyr sydd wedi cael eu henwebu ar gyfer gwobrau’r ŵyl. Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws yr amserlen gyfan. Rydym yn edrych ymlaen yn arw at yr ŵyl a’r gwobrwyo yng Ngweriniaeth Iwerddon.”

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?