S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sylwebaeth bêl-droed Gymraeg yn "hollbwysig" – Ian Gwyn Hughes

12 Awst 2016

Roedd cael sylwebaeth Gymraeg ar S4C ar gyfer gemau Cymru yn Euro 2016 yn "hollbwysig" yn ôl un o brif swyddogion Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Gyda thymor pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru ar fin dechrau, gyda gêm fyw ar S4C ddydd Sadwrn, 13 Medi, mae Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu'r Gymdeithas, wedi canmol gwasanaeth pêl-droed S4C yn ystod Euro 2016 ac ar bob lefel o'r gêm.

"Dwi'n credu bod sylwebaeth yn y Gymraeg ar S4C yn hollbwysig," meddai Ian Gwyn Hughes, aelod allweddol o dîm gweinyddol a hyrwyddo’r Gymdeithas a oedd gyda charfan lwyddiannus Cymru yn yr ymgyrch Euro 2016 yn Ffrainc.

"'Mae safon y cyflwyno a’r cynhyrchiad yn hynod o uchel,” meddai Ian Gwyn Hughes am y rhaglenni Euro 2016 a gynhyrchwyd gan BBC Cymru ar S4C.

"'Da chi'n cael brwdfrydedd ond hefyd 'da chi'n cael dadansoddiad amrheidiol hefyd. Roedd safon y sylwebu gan Nic Parry a safon y cyflwyno gan Dylan Ebenezer yn arbennig ac wrth gwrs dadansoddi heb ei ail gan gyn-chwaraewyr fel Malcolm Allen ac Owain Tudur Jones."

Gwyliwch fideo o sylwadau Ian Gwyn Hughes yma.

Roedd gallu dangos gemau Cymru yn Euro 2016 yn hollbwysig i S4C hefyd, a'r sianel yn credu y dylai digwyddiad oedd mor arwyddocaol yn hanes chwaraeon Cymru fod ar gael i gefnogwyr yn nwy iaith y genedl.

Mae ymrwymiad S4C i gefnogi chwaraeon yng Nghymru yn estyn o'r llwyfan rhyngwladol i'r cynghreiriau cartref. Ddydd Sadwrn nesa, 13 Awst, bydd tymor newydd o gemau byw Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn dechrau, gyda rhaglenni a gwasanaethau ar-lein Sgorio yn rhoi sylw diguro i'r Gynghrair.

Mae'r gwasanaeth yma yn un 'heb ei ail', dywed Ian Gwyn Hughes wrth sôn am Sgorio, sy’n cael ei chynhyrchu gan gwmni Rondo Media ar gyfer S4C.

"'Da chi'n cael y safon yma ar bob lefel - timau dan 21, gemau'r merched a hefyd wrth gwrs Uwch Gynghrair Cymru. Felly, mae gennych chi becyn pêl-droed perffaith mewn ffordd ac, heb os, tîm cynhyrchu a thîm sylwebu a chyflwyno heb ei ail."

Ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau 4 Awst roedd S4C wedi cynnal sesiwn arbennig i glywed hanesion taith Euro 2016 gan Ian Gwyn Hughes ac is-reolwr y tîm cenedlaethol Osian Roberts, yng nghwmni cyflwynydd pêl-droed S4C Dylan Ebenezer.

Dyma oedd cyfle i ddiolch i'r tîm "am greu gymaint o falchder, mwynhad, a dagrau ... am y rhesymau cywir, ymhlith cenhedlaeth o ddilynwyr pêl-droed Cymru," meddai Prif Weithredwr S4C, Ian Jones.

"Rwy'n falch iawn fod S4C yn cynnal y digwyddiad er mwyn nodi un o'r cyfnodau mwyaf cyffrous sydd wedi bod ar y sianel ers ei sefydlu ym 1982, gyda darlledu ymgyrch ryfeddol y tîm a'i dilynwyr yn Ffrainc," meddai Ian Jones.

"Dwi'n ffyddiog y bydd eu cyfraniad dros y gêm, dros y genedl a dros Gymru i'w deimlo am flynyddoedd lawer i ddod."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?