S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Un Bore Mercher / Keeping Faith yn dychwelyd am y tro olaf

24 Ionawr 2020

Bydd drama boblogaidd S4C a BBC Cymru Wales, Un Bore Mercher / Keeping Faith, yn dychwelyd am gyfres olaf, cyhoeddwyd gan y ddau ddarlledwr heddiw.

Gall cynulleidfaoedd edrych ymlaen at gyfres gyffrous arall gydag Eve Myles yn dychwelyd fel Faith Howells, Bradley Freegard fel Evan Howells a Mark Lewis Jones fel Steve Baldini.

Bydd Celia Imrie, sydd wedi ennill gwobrau Olivier (Victoria Wood As Seen on TV, Dinnerladies, Gwesty Marrigold Egsotig Gorau) yn ymuno â'r cast.

Roedd ffigurau gwylio cyfres gyntaf ac ail gyfres Un Bore Mercher ymhlith yr uchaf ar gyfer dramâu S4C ers 2010.

Mae Cyfres 1 a 2 o Keeping Faith wedi bod yn hynod lwyddiannus ar BBC iPlayer gyda dros 33 miliwn o geisiadau hyd yma ac iPlayer yn hawlio bron i hanner y gwylwyr.

Datblygwyd Un Bore Mercher / Keeping Faith yn wreiddiol gan S4C.

Cynhyrchwyd gan Vox Pictures ar gyfer S4C a BBC mewn cydweithrediad ag APC / Nevision gyda chefnogaeth gan Busnes Cymru.

Cyfarwyddir y gyfres gan Pip Broughton a Judith Dine, ac ysgrifennwyd gan Matthew Hall a Pip Broughton. Cynhyrchir gan Pip Broughton a Llyr Morus.

Disgwylir i'r gyfres gael ei darlledu ar S4C ym mis Hydref 2020 ac ar BBC One Wales yn Chwefror 2021 a bydd ar gael ledled y DU yn gyfan gwbl ar BBC iPlayer.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae S4C wrth ein bodd o weld Un Bore Mercher yn dychwelyd yn 2020.

"Rydym yn hynod o falch o gael galw'r ddrama arbennig hon yn un o ddramâu gwreiddiol S4C.

"Wedi ei gosod yn un o fannau harddaf Cymru, mae'r gyfres wedi profi yn hynod boblogaidd ac wedi codi proffil dramâu o Gymru led led y byd."

Dywedodd Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Cymru, Nick Andrews: "Mae Keeping Faith yn sioe wych ac rydw i wrth fy modd y bydd yn dychwelyd am drydedd cyfres.

"Mae wedi torri record ar iPlayer ac mae gan y gyfres ddilyniant angerddol o gefnogwyr.

"Mae'n nodweddiadol o'r dramau o ansawdd uchel sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru ar hyn o bryd ac sy'n cael eu mwynhau gan bobl ledled y DU.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?