
9 Mehefin 2026
Mae S4C wedi ymuno gydag ITV am y tro cyntaf i greu drama newydd wedi ei lleoli yn Abertawe, Santa Maria. Bydd y gyfres gomedi dywyll yn cael ei dangos am y tro cyntaf yn Gymraeg ar S4C yn gynnar yn 2027, cyn darlledu yn Saesneg ar ITV yn ddiweddarach yn 2027.
Wedi'i chreu a'i hysgrifennu gan y sgriptiwr arobryn Siwan Jones (Con Passionate, Alys, 35 Diwrnod) a'i chyfarwyddo gan Erin Richards (Y Golau: Dŵr, Gotham), mae'r gyfres yn dilyn dau deulu o gefndiroedd gwahanol iawn y mae eu bywydau'n cyd-blethu oherwydd un fenyw gwerth ei halen, ond sydd hefyd ar fin cyrraedd pen ei thenyn, Maria.
Mae'r cast yn cynnwys Siân Reese-Williams (Y Golau: Dŵr, Y Gwyll, Craith), Matthew Gravelle (Con Passionate, Dal y Mellt, Steeltown Murders), Hannah Daniel (Cleddau, Pren ar y Bryn, Y Gwyll), Richard Harrington (Cleddau, Steeltown Murders, Y Gwyll), Leisa Gwenllian (Effi, Y Golau: Dŵr), Oliver John (Y Golau: Dŵr), a Melanie Walters (Gavin & Stacey, Belonging).
Mae Santa Maria yn gynhyrchiad Triongl ar gyfer S4C ac ITV, wedi'i gynhyrchu gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, gyda chyllid ecwiti yn cael ei ddarparu gan Gronfa Cynnwys Masnachol S4C rhyngwladol a'i ddosbarthu'n rhyngwladol gan Sphere Abacus.
Fe'i comisiynwyd ar gyfer S4C gan Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C, ac mae'n cyfrannu at strategaeth S4C o gynhyrchu cynnwys Cymraeg sy'n apelio at gynulleidfa eang ac yn adlewyrchu'r Gymru gyfoes. Meddai Gwenllian:
"Mae Santa Maria yn archwilio cyferbyniadau trawiadol bywyd yn Abertawe, lle mae dau fyd gwahanol iawn yn bodoli ochr yn ochr. Mae hi wedi'i lleoli gyda chefnlen fendigedig y ddinas ac awyr las eiconig y Mwmbwls, mae'n ddrama gomedi hynod dywyll ac yn llwyddo i ddal Abertawe yn ei holl amrywiaeth; bywiog, cymhleth ac yn gwbwl real.
"Rydym yn hynod gyffrous i fod yn cydweithio gydag ITV am y tro cyntaf, ochr yn ochr â phartneriaid rhagorol, i arddangos straeon Cymru ar ei orau. Diolch i'r tîm gwych yn Triongl a chefnogaeth Cymru Greadigol, allwn ni ddim aros i gynulleidfaoedd gwrdd â Maria a chamu i'w byd."
Dywedodd Darren Nartey, Pennaeth Caffael Cynnwys, ITV:
"Rydyn ni'n falch iawn o fod yn dod â'r stori ddiddorol hon i'n cynulleidfaoedd ar draws ITV, ac edrychwn ymlaen iddi gyrraedd ein sgriniau yn 2027."
Dywedodd Adam Price, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
“Fel llywodraeth newydd, rydym wedi ymrwymo i gryfhau’r sectorau creadigol yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r ffaith bod buddsoddiad Cymru Greadigol yn y cynhyrchiad hwn wedi helpu i greu swyddi i’n gweithlu talentog, profiad gwerthfawr i hyfforddeion, ac y disgwylir iddo gyflwyno tua £5.7 miliwn o elw economaidd i Gymru.”
Dywedodd Cynhyrchwyr Gweithredol Triongl, Nora Ostler Spiteri, Alexander Spiteri a Gethin Scourfield:
"Ni allwn orbwysleisio pa mor gyffrous ydym ni i ddechrau cynhyrchu cyfres ddrama newydd wych Siwan Jones, Santa Maria. Rydym wedi dod â chast a chriw gwych ynghyd i greu cyfres sy'n gynnes, yn ddoniol ac yn fywiog - ymhell o'n dramau noir arferol.
"Mae S4C a Chymru Greadigol, fel erioed, wedi bod yn gefnogaeth fawr i ni wrth greu’r gyfres ac rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio ag ITV, Cronfa Cynnwys Masnachol S4C rhyngwladol a Sphere Abacus am y tro cyntaf i ddod â Santa Maria yn fyw."