Y Wasg

Y Wasg

Commonwealth Sport yn croesawu S4C fel darlledwr ar gyfer Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026

12 Mehefin 2026

Dydd Gwener 12 Mehefin 2026 – mae Commonwealth Sport wedi cyhoeddi heddiw y bydd S4C yn darparu darllediadau byw o Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026, gan nodi’r tro cyntaf i S4C ddarlledu’n fyw o’r Gemau.

 

Bydd y darllediad yn rhedeg o ddydd Gwener 24 Gorffennaf tan ddydd Sul 2 Awst, ac yn cynnwys deg diwrnod o gystadlu ar draws deg camp a rhaglen chwaraeon Para sy’n torri record, gyda 47 digwyddiad ar draws chwe disgyblaeth gwahanol.

 

Bydd y bartneriaeth yn sicrhau bod cynulleidfaoedd ledled Cymru yn gallu dilyn pob eiliad o daith Tîm Cymru yn Glasgow eleni, y 23ain Gemau'r Gymanwlad.

 

Dywedodd Katie Sadleir, Prif Weithredwr Commonwealth Sport: “Rydym wrth ein boddau i groesawu S4C fel partner darlledu swyddogol ar gyfer Glasgow 2026. Mae Gemau’r Gymanwlad yn unigryw gan ddod ag athletwyr a chymunedau ynghyd o bob cwr o’r 74 gwlad a thiriogaeth, ac mae’n wych y bydd cynulleidfaoedd sy’n siarad Cymraeg yn gallu profi cyffro, drama ac ysbrydoliaeth y Gemau yn fyw yn eu hiaith eu hunain am y tro cyntaf.

 

“Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wneud Glasgow 2026 mor hygyrch a chynhwysol â phosib, gan sicrhau y gall mwy o bobl gysylltu â’r eiliadau sy’n gwneud Gemau’r Gymanwlad mor arbennig.”

 

Lauren Salter fydd yn cyflwyno'r darllediad ar S4C ynghyd ag Alun Williams fydd yn gohebu’n fyw o Glasgow bob nos.

 

Dywedodd Lauren Salter: "Mae'n fraint i gyflwyno darllediad S4C o Gemau'r Gymanwlad.  Am anrhydedd i'n hathletwyr ar dop eu gêm i gynrychioli eu gwlad ar lwyfan y byd. Dwi’n edrych ymlaen at wylio Tîm Cymru yn dod â'r medalau adref a gwneud Cymru yn falch."

 

Dywedodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Mae S4C yn falch iawn o ddarlledu'n fyw o Gemau'r Gymanwlad am y tro cyntaf.  Fel yr unig ddigwyddiad chwaraeon aml-gamp lle mae Cymru'n cystadlu fel Cymru, rydym yn falch i gefnogi Tîm Cymru yn Glasgow.  O’r pwll i’r trac, caiff ein gwylwyr brofi gwefr y cystadlu ar S4C, Cartref Chwaraeon Cymru."

 

Mae Cymru yn un o chwe gwlad yn unig sydd wedi cystadlu ym mhob un o’r Gemau ers iddynt ddechrau yn 1930 ac mae S4C yn falch iawn o bartneru â Thîm Cymru.

 

Dywedodd Chef de Mission Tîm Cymru, Gethin Jones: "Wrth i ni edrych tuag at yr hyn sy'n argoeli i fod yn ymgyrch ysbrydoledig a bythgofiadwy yn Glasgow, ry’n ni’n gwybod y bydd gwylwyr adref yng Nghymru yn cefnogi ein hathletwyr drwy gydol y cystadlu, ac ry’n ni wrth ein boddau y bydd S4C yn eu darparu â holl gyffro'r Gemau."

 

Dywedodd Phill Batty OBE, Prif Weithredwr Glasgow 2026: "O'r cychwyn cyntaf rydym wedi bod eisiau i Glasgow 2026 fod yn Gemau y gall pawb deimlo'n rhan ohonynt, lle bynnag maen nhw a pha bynnag iaith maent yn ei siarad. Mae croesawu S4C fel ein darlledwr Cymraeg yn gwneud yn union hynny, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd ledled Cymru ddilyn pob eiliad o daith Tîm Cymru o ochr y pwll i ochr y trac. Rydym yn falch y bydd Glasgow yn llwyfan ar gyfer yr eiliadau hyn ac yn falch y bydd S4C yn helpu eu rhannu gyda chefnogwyr sy'n siarad Cymraeg."

 

Bydd Gemau’r Gymanwlad Glasgow 2026 ar S4C yn cael eu cynhyrchu gan Sunset and Vine.

Bydd Gemau'r Gymanwlad Glasgow 2026 yn cael eu cynnal o 24 Gorffennaf i 2 Awst 2026, gan ddod ag athletwyr o bob cwr o'r Gymanwlad ynghyd am ddeg diwrnod o chwaraeon a dathliadau o'r radd flaenaf.