Y Wasg

Y Wasg

Darllediad aml-blatfform S4C i ddod â holl gyffro Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las

30 Gorffennaf 2026

Bydd S4C yn dod â holl gyffro Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las i wylwyr ar draws ei phlatfformau. Bydd rhywbeth i ddiddanu pawb o bob oed sydd am fwynhau blas o’r Eisteddfod gartref. 

O’r cystadlu a’r celfyddydau i’r cyngherddau, a’r gigs, bydd tîm cyflwyno S4C yn Llantwd, gogledd Sir Benfro, wrth galon y cwbl, gan ddod â’r holl weithgareddau a digwyddiadau bob bore, prynhawn a hwyr. 

Bydd hefyd gynnwys gwreiddiol ar draws platfformau digidol S4C, gan ddod â bwrlwm y Brifwyl i flaenau bysedd y gwylwyr.  O straeon Instagram i fideos ar TikTok, bydd rhywbeth yn siwr o daro tant.  

Heledd Cynwal, Elin Llwyd (y llais o’r Pafiliwn) a Tudur Owen fydd yn dechrau pob dydd gyda rhaglen y bore gan grwydro’r maes a dilyn y diweddaraf o gystadlu’r Pafiliwn. Yn y prynhawn, Nia Roberts fydd yn y stiwdio gyda Lloyd Lewis ac Eleri Sion yn cymryd cip ar yr hyn sy’n digwydd ar y maes. Gyda’r hwyr, tro Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur fydd hi i gyflwyno’r cystadlu a’r perfformiau byw fin nos gan edrych yn ôl ar brif ddigwyddiadau’r dydd.   

Does dim rhaid colli eiliad o’r cystadlu o’r Pafiliwn chwaith gyda ffrwd arbennig Sedd yn y Pafiliwn yn ddyddiol ar S4C Clic ac ar dudalen S4C ar BBC iPlayer. I’r rhai sy’n mwynhau llenyddiaeth bydd rhaglenni nosweithiol yn eu tywys drwy arlwy’r Babell Lên yng nghwmni Tudur Owen. 

Meddai Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llion Iwan:    

"Mae'r Eisteddfod yn gyfle i ddathlu popeth sy'n gwneud ein diwylliant yn fyw ac yn berthnasol heddiw. Eleni bydd S4C yn sicrhau bod modd i bawb gymryd rhan yn y profiad, boed hynny ar y maes, ar y teledu neu ar ein llwyfannau digidol. Rydym yn edrych ymlaen at ddod â straeon, talent a chyffro'r Garreg Las i gynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt." 

Yn ôl y drefn arferol cynhelir Cymanfa Ganu’r Eisteddfod ar y nos Sul agoriadol am 20.00. Daniel Rees fydd yn arwain y noson, a bydd perfformiadau gan Gôr y Gymanfa hefyd. Bydd cyfle i fwynhau’r cyfan ar raglen Y Gymanfa Ganu, nos Sul 2 Awst.  

Ar nos Lun, 3 Awst am 20.00 bydd cyngerdd a hanner i’w fwynhau yng nghwmni Côr yr Eisteddfod wrth i’r Sianel ddarlledu cyngerdd Sefyll ar y Sgwâr o’r Pafiliwn. Mae Sefyll ar y Sgwâr yn sioe gerdd newydd sbon wedi’i hysbrydoli gan ganeuon Ail Symudiad, y band dylanwadol o Aberteifi, a bwriad y sioe yw dathlu cyfraniad ac etifeddiaeth Richard ac Wyn Jones, aelodau Ail Symunidad i’r sîn gerddoriaeth Gymraeg. 

I goroni wythnos y Brifwyl, bydd darllediad arbennig o gig Super Furry Animals nos Sadwrn, 8 Awst am 20.30. Dyma’r tro cyntaf i’r grŵp eiconig berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ers 30 mlynedd. 

Yn dilyn, am 21.30 bydd cyfle arall i wylio rhaglen ddogfen Ffa Coffi Pawb! sy'n dilyn siwrne’r band – o sîn gerddoriaeth danddaearol Cymru’r 80au a’r 90au – i'r Super Furry Animals. 

Bydd wynebau cyfarwydd o’r ardal yn ein tywys o amgylch y Garreg Las yn rhaglen Rhagflas yr Eisteddfod nos Wener 31 Gorffennaf am 18.30.  

Ar nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod (1 Awst) am 19.00 bydd pennod arbennig o Am Dro Steddfod! lle bydd pedwar o sêr yr ardal - y Prifardd Ceri Wyn Jones, y cyflwynwyr Dot Davies a Mirain Iwerydd a’r actor Iwan John - yn ein tywys ar hyd llwybrau bro Eisteddfod y Garreg Las.   

Bydd rhai o raglenni eraill byw S4C yn symud eu stiwdio i faes yr Eisteddfod yr wythnos nesaf hefyd – gan gynnwys rhaglen Heno ar nos Lun 3 Awst, a Pawb a’i Farn, y rhaglen sy’n trafod materion cyfoes ar nos Fercher 5 Awst am 21.45.  

Fe fydd isdeitlau Saesneg ar gael ar holl raglenni’r Eisteddfod, ac eleni am y tro cyntaf erioed, bydd isdeitlau Cymraeg hefyd ar gael ar ambell raglen o’r Brifwyl, gan gynnwys Croeso i'r Eisteddfod, darllediad cyngerdd Sefyll ar y Sgwar, rhaglenni Y Babell Lên a darllediad gig Super Furry Animals

I’r rhai fydd ar y maes, bydd digon o weithgaredd ar stondin S4C drwy gydol yr wythnos. Bydd y dathliadau’n dechrau ddydd Llun gyda pharti arbennig i nodi dychweliad un o gymeriadau mwyaf eiconig S4C i’r sgrîn. Ddydd Mawrth, bydd cyhoeddiad cyffrous iawn am hanner dydd, cyn sesiwn holi ac ateb gyda chast Cleddau yn y prynhawn. Ddydd Mercher, bydd adnodd newydd i newyddiadurwyr y dyfodol yn cael ei lansio, tra bydd Cân i Gymru yn cael sylw arbennig ddydd Iau, gyda pherfformiad gan enillydd 2026, Sara Owen. Ddydd Iau ar y stondin, bydd cyhoeddiad arbennig am Cân i Gymru 2027.  Ddydd Gwener, bydd cyfle i gwrdd ag Elin Fflur a sêr ail gyfres Amour & Mynydd. I gloi wythnos brysur y stondin, bydd S4C Miwsig yn cyflwyno perfformiad gan Aleighcia Scott. Mae croeso cynnes i ymwelwyr alw heibio am sgwrs ac i fwynhau’r amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau.