Y Wasg

Y Wasg

Cystadleuaeth Cân i Gymru 2027 ar agor

6 Awst 2026

 

Mae cystadleuaeth gyfansoddi Cân i Gymru 2027 wedi agor i geisiadau.

 

Mewn digwyddiad ar stondin S4C yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las, mi wnaeth y cyflwynwyr Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur gyhoeddi mai Y Neuadd Fawr, Undeb Myfyrwyr Caerdydd yw lleoliad nesaf Cân i Gymru ar nos Sadwrn, 27 Chwefror 2027.

Mae hyn yn dilyn llwyddiant cynnal y digwyddiad ym Maes Sioe Môn eleni pan ddaeth ‘Y Gân’ gan Geth Tomos, Henry Priestman ac Emlyn Gomer i’r brig.

Mae’r gystadleuaeth yn rhoi cyfle i gyfansoddwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu eu doniau cerddorol a chystadlu am deitl eiconig Cân i Gymru 2027.

Bydd y gân fuddugol yn cipio tlws y gystadleuaeth, gwobr ariannol o £5,000 ac, eleni, y cyfle i ffilmio fideo cerddoriaeth arbennig o’r gân honno i’w cyhoeddi ar sianel YouTube S4C Miwsig. Bydd enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Dywedodd Trystan Ellis-Morris:

"Mae cynnal y digwyddiad byw yn Y Neuadd Fawr, Undeb Myfyrwyr Caerdydd ar gyfer 2027 yn mynd i fod yn gyffrous iawn. Mae'n lwyfan sydd wedi croesawu rhai o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth – Oasis, Biffy Clyro, Becky Hill, The Cure, Ed Sheeran – ac mae'n teimlo'n addas iawn y bydd artistiaid a chyfansoddwyr Cymru yn cael y cyfle i ddisgleirio yno hefyd."

Dywedodd Geth Tomos, enillydd Can i Gymru 2026:

“Fel cerddor o Fôn, mae ennill Cân i Gymru yn anrhydedd enfawr. Gyda chefnogaeth fy nghyd-ysgrifenwyr, Emlyn Gomer a Henry Priestman, mae'r wobr hon yn golygu cymaint i mi.

“Ac wrth gwrs, fyddai'r gân ddim wedi cyrraedd ei llawn botensial oni bai am Sara Owen. Fe ddaeth hi a'r gân yn fyw mewn ffordd na allwn fod wedi'i ddychmygu, gyda pherfformiad hollol anhygoel, gonest ac emosiynol.

“Mae'r negeseuon rydym wedi'u derbyn gan bobl sydd wedi dod o hyd i gysur ynddi wrth wynebu galar a sydd wedi gweld gobaith a ffordd ymlaen ar ôl colli anwyliaid wedi golygu'r byd i mi.”

Yn ôl i gadeirio panel y rheithgor mae Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr. A’r tro hwn, ni fydd gweddill panel y rheithgor yn cael eu datgelu tan bod y ceisiadau’n cau.

Mewn newid arall i’r gystadleuaeth yn 2027, dim ond un gân fesul cyfansoddwr gall fynd ymlaen i’r rownd derfynol, a bydd trafodaeth rhwng y cyfansoddwyr a’r cwmni cynhyrchu er mwyn dod o hyd i’r perfformiwr/perfformwyr i arddangos y gân ar ei gorau.

Mae’r holl dermau ac amodau ar gael ar wefan S4C.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau Cân i Gymru 2027 yw 4 Hydref 2026 am 23:59.