Y Wasg

Y Wasg

S4C i fuddsoddi mwy mewn cynnwys digidol i ddysgwyr

6 Awst 2026

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yn ymestyn ei ddarpariaeth i ddysgwyr drwy fuddsoddi £100,000 ychwanegol mewn pecyn o gynnwys digidol i gefnogi’r rhai sy’n dysgu Cymraeg.

Mae’r buddsoddiad yn ychwanegol i’r ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli fel rhan o wasanaeth Dysgu Cymraeg S4C ar draws ei phlatfformau.

Fe wnaed y cyhoeddiad gan Brif Weithredwr S4C, Geraint Evans, ym Mhabell Cymdeithasau 2 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ar ddydd Iau, 6 Awst, wrth siarad mewn sesiwn wedi’i chynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, o dan y teitl ‘Cyfraniad Siaradwyr Newydd i’r Gymraeg’.

Meddai Geraint Evans: “Mae’r rhai sy’n dewis dysgu Cymraeg yn haeddu pob cefnogaeth, ac mae ymchwil gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn dangos pa mor bwysig mae nifer o bobl yn ystyried cynnwys S4C fel adnodd hollbwysig wrth ddysgu.

“Mae’n gam naturiol i ni felly adolygu a pharhau i dyfu’r ddarpariaeth honno i’r gynulleidfa bwysig hon; dysgu tra’n mwynhau cynnwys gwych yw’r bwriad ar draws ein platfformau digidol.”

Bydd S4C yn cynnal galwad agored yn yr Hydref am syniadau gwreiddiol gan gwmnïau cynhyrchu i greu’r cynnwys newydd fydd yn cael ei gyhoeddi ar draws cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau digidol S4C.

Mae’r cyhoeddiad yn tyfu ar lwyddiant cyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C Dysgu Cymraeg. Tyfodd cyrhaeddiad y cyfrifon dros 50% yn ystod y cyfnod 2025-26, gyda nifer dilynwyr y cyfrifon hynny wedi mwy na dyblu dros yr un cyfnod.

Bydd S4C yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sydd eisoes yn bartner strategol i’r darlledwr, wrth baratoi’r cynnwys i sicrhau ei fod yn cefnogi camau siwrne dysgu Cymraeg gwylwyr.

Ers blwyddyn, mae’r Ganolfan hefyd wedi darparu tiwtor Dysgu Cymraeg i weithio’n unswydd â’r darlledwr, a’r sector darlledu ehangach, i gefnogi cyflwynwyr, cyfranwyr a gweithwyr y tu ôl i’r camera i ddysgu a magu hyder i ddefnyddio’u Cymraeg.

Meddai Dona Lewis, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae dros 20,000 o bobl yn dysgu Cymraeg, ac mae diddordeb mawr gan ein dysgwyr i wylio cynnwys Cymraeg, o ran mwynhad, ond hefyd i atgyfnerthu’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn eu dosbarthiadau, a magu hyder i siarad yr iaith.

“Mae’r bartneriaeth ag S4C, felly, yn un bwysig i ni, wrth i ni gydweithio i greu cyfleoedd i’n dysgwyr a siaradwyr newydd i fwynhau’r iaith. ’Dyn ni hefyd eisiau cefnogi pobl sy’n gweithio yn y diwydiant i gryfhau eu sgiliau, a ’dyn ni’n falch iawn o gefnogi’r sianel, a’r diwydiant teledu, trwy ddarparu tiwtor Dysgu Cymraeg penodol.”

Mae'r cyhoeddiad yn dod â strategaeth S4C o fod yn sianel ddigidol yn gyntaf a’r nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 at eu gilydd – a caiff manylion cynnwys y pecyn eu cyhoeddi maes o law.