Y Wasg

Y Wasg

Penodi Seiriol Dawes-Hughes yn Gomisiynydd Chwaraeon S4C

7 Awst 2026

Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Seiriol Dawes-Hughes sydd wedi ei benodi yn Gomisiynydd Chwaraeon newydd S4C.

Mae Seiriol yn enw cyfarwydd i nifer ym myd darlledu chwaraeon yng Nghymru fel Uwch Gynhyrchydd Sgorio, conglfaen gwasanaeth pêl-droed S4C gan gwmni Rondo.

Mae Seiriol wedi treulio gyrfa lwyddiannus ers iddo ymuno gyda chwmni Rondo fel ymchwilydd gan ddatblygu’n gynhyrchydd, cyfarwyddwr ac yna’n arweinydd adran wrth adeiladu tîm arbennig Sgorio.

Daw’r newydd yn dilyn penderfyniad Sue Butler i gamu lawr o'i rôl fel Comisiynydd Chwaraeon S4C wedi deuddeg mlynedd llwyddiannus iawn wrth y llyw, gyda’r sianel yn dod i gael ei hadnabod fel Cartref Chwaraeon Cymru. 

Mae disgwyl i Sue gydweithio gyda Seiriol ar gyfnod pontio fydd yn debygol o ddigwydd yn hwyrach y flwyddyn hon. 

Dywedodd Seiriol Dawes-Hughes: “Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â S4C ar amser cyffrous i'r sianel.

“Mae chwaraeon yn rhan allweddol o arlwy S4C ac felly rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r sector gynhyrchu i sicrhau fod S4C yn parhau fel Cartref Chwaraeon Cymru ar draws pob platfform.

“Hoffwn i ddiolch i S4C am y cyfle i ymuno â'r tîm ac i fy nghydweithwyr yn Rondo am ddeunaw mlynedd hapus iawn o gydweithio.”

Gan groesawu Seiriol, dywed Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llion Iwan: 

“Rydyn ni’n falch iawn fod Seiriol Dawes-Hughes yn ymuno gyda thîm comisiynu S4C, gan ddod â phrofiad arbennig fel cynhyrchydd ac hefyd adnabyddiaeth ddofn a deallus o’r cyfrwng digidol.

“Edrychaf ymlaen i gyd-weithio gydag ef wrth i ni adeiladu ar waith arbennig Sue Butler dros y blynyddoedd diwethaf.”