Y Wasg

Y Wasg

Cyhoeddi cyflwynydd newydd Cyw ar S4C

6 Awst 2026

 

Mae S4C wedi cyhoeddi taw Lliwen Glwys o Fachynlleth yw cyflwynydd newydd Cyw, gwasanaeth y sianel i blant hyd at 6 mlwydd oed. 

Ymunodd Lliwen â chriw Cyw am y tro cyntaf mewn sesiwn Canu a Dawnsio ar Lwyfan y Maes yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ar ddydd Iau 6 Awst. 

Mae Lliwen wedi gweithio fel cyfieithydd ers graddio o Brifysgol Aberystwyth, ond mae perfformio wedi bod yn rhan bwysig o’i bywyd erioed. Mae wedi cymryd rhan mewn cynyrchiadau Cwmni Theatr Maldwyn a llwyddo mewn amryw o Eisteddfodau yn y cystadlaethau canu, dawnsio ac ysgrifennu creadigol. 

Dywedodd Lliwen: 

“Dwi wastad wedi mwynhau perfformio a chyfathrebu efo pobl, ac er na wnes i ddilyn y llwybr traddodiadol o fynd i astudio perfformio, mae’r diddordeb wastad wedi bod efo fi. Felly pan weles i’r swydd, roedd o’n teimlo fel y cyfle perffaith i mi fynd amdani.” 

Mae Lliwen hefyd yn angerddol dros y Gymraeg, ac yn falch o’r cyfle i gyfrannu at ddatblygiad ieithyddol plant ifanc 0-6 oed yn ei rôl newydd: 

“Mae gwasanaeth Cyw yn borth o bwys i’r iaith Gymraeg. Yma mae plant yn gweld, clywed a rhyngweithio yn y Gymraeg mewn ffordd naturiol a hwyliog, beth bynnag eu gallu ieithyddol. Os alla’i fod yn rhan fach o hynny trwy gyflwyno cynnwys sy’n ysbrydoli ac yn annog plant i ddefnyddio’u Cymraeg, mae hynny’n fraint.”  

Er ei bod hi wedi arfer perfformio ar lwyfannau ledled Cymru, mae Lliwen yn cyfaddef bod ei hymddangosiad cyntaf gyda chriw Cyw yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn achlysur arbennig iawn. 

Cyn yr ymddangosiad cyntaf, dywedodd Lliwen: 

“Dwi’n gobeithio byddai’n teimlo’n gartrefol yn ymuno gyda’r criw ar y llwyfan yn yr Eisteddfod. Digon posib fydd y nerfau yn taro fi rhai munudau ynghynt ond dwi wir yn edrych ymlaen at yr elfen berfformio yna.”  

“Dwi’n gyffrous i gamu i fyd hollol wahanol lle mae’r cyfleoedd yn ddi-ben-draw. Dwi’n cyfri’r dyddiau at gael ymuno â’r criw a chroesawu plant bach Cymru i Fyd Cyw gyda fi.” 

Bydd Lliwen yn ymuno â thîm cyflwyno Cyw – Elin Haf, Griff Daniels a Dafydd Lennon – ac i’w gweld ar sgrin am y tro cyntaf o 6.00 y bore ar ddydd Mercher 2 Medi ymlaen. 

Mae rhaglenni Cyw ar gael bob bore am 6.00 trwy gydol yr wythnos ac eto am 4.00 y prynhawn ddyddiau Llun i Gwener ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn ogystal ag ar alw.  

Ac mi fydd Lliwen hefyd yn rhan o daith Nadolig Cyw fydd yn digwydd o’r 10 Tachwedd i 19 Rhagfyr mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru. Bydd gwybodaeth am archebu tocynnau i’r daith Nadolig ar gael maes o law.