Y Wasg

Y Wasg

S4C yn datblygu drama am y cyfleoedd a gollwyd i atal Neil Foden

13 Awst 2027

Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddrama dair-rhan Y Pennaeth (teitl gweithredol), fydd yn archwilio’r methiannau a’r cyfleoedd a gollwyd i atal y cyn-brifathro a’r pedoffeil, Neil Foden.  

Cafodd Neil Foden, cyn-brifathro yn Ysgol Friars ym Mangor ei arestio yn 2023. Derbyniodd ddedfryd o 17 mlynedd dan glo'r flwyddyn ganlynol wedi iddo ei gael yn euog o gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023. Yn 2025 daeth adolygiad annibynnol i’r casgliad fod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli i atal y prifathro rhag ymosod yn rhywiol ar ferched.  

Bydd y ddrama yn seiliedig ar dystiolaeth a nodiadau o’r achos cyfreithiol yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ac ar adroddiad annibynnol i’r achos gan yr arbenigwraig, Jan Pickles. Bydd Y Pennaeth yn adrodd yr hanes o safbwynt dwy ferch ifanc sy’n cael eu cam-drin. Bydd y cymeriadau hyn, a nifer o’r golygfeydd, yn ffuglennol er mwyn diogelu goroeswyr yr achos gwreiddiol.  

Mark Lewis Jones (Y Golau: Dŵr, Y Sŵn, The Crown, Dal y Mellt) fydd yn chwarae rhan Neil Foden. 

Bydd y ddrama yn archwilio sut y gwnaeth Foden fanteisio ar sefyllfaoedd personol y merched, yn ogystal â methiannau’r gweithdrefnau diogelu, a’r cyfleoedd a gollwyd i atal troseddau pellach. 

Yn ystod y broses o ymchwilio ac ysgrifennu, mae’r awdur a’r cwmni cynhyrchu hefyd yn cydweithio â newyddiadurwr, sydd yn bwynt cyswllt rhyngddynt â rhai oedd ynghlwm â’r hyn ddigwyddodd, neu wedi eu heffeithio gan y digwyddiadau.   

Yn ystod y cyfnod datblygu, ac fel mater o gwrteisi, mae’r cwmni cynhyrchu hefyd wedi bod mewn cysylltiad â Heddlu Gogledd Cymru. Mae'r heddlu wedi sicrhau bod holl oroeswyr yr achos llys yn ymwybodol o'r prosiect, ac mae'r cwmni cynhyrchu wedi cynnig mynediad at gefnogaeth broffesiynol iddynt. 

Mae Y Pennaeth yn gynhyrchiad gan Cynyrchiadau MOJO, sydd wedi bod yn datblygu’r gyfres gyda S4C ers 18 mis. Mae Llyr Morus yn cynhyrchu a Huw Chiswell yn cyfarwyddo. Llinos Gerallt (Yr Amgueddfa, Rownd a Rownd, Pobol y Cwm) yw awdur y ddrama.  

Meddai Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama a Ffilm S4C:  

“Mae hon yn stori bwysig ac ysgytwol am sut y llwyddodd dyn mewn safle o rym ac ymddiriedaeth i fradychu’r statws hwnnw dros nifer o flynyddoedd, tra’n codi cwestiynau anodd am ddiwylliannau lle mae unigolion yn cael eu gweld fel rhai na ellir eu herio. Wedi’i datblygu gyda gofal a sensitifrwydd mawr, mae’r cynhyrchiad yn ymdrin â’r pwnc yn gyfrifol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau ehangach brad gan ffigwr cyhoeddus a ymddiriedwyd â chyfrifoldeb a gofal.” 

Caiff Y Pennaeth ei darlledu ar S4C yn 2027.