Y Wasg

Y Wasg

Aelodau newydd i Fwrdd S4C

Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) wedi penodi Rhodri Lewis a Stephen Dimmick am gyfnodau o bedair blynedd, yn cychwyn ar 1 Medi 2026 hyd at 31 Awst 2030.

Mae Stephen Dimmick yn arweinydd masnachol ac yn gyfarwyddwr anweithredol â phrofiad ar draws y sectorau preifat, cyhoeddus ac elusennol yng Nghymru. Mae'n Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru, yn Brif Weithredwr Dros Dro The Aloud Charity, ac mae'n gwasanaethu ar nifer o fyrddau a phwyllgorau llywodraethu, gan gynnwys Cymdeithas Tai Sir Fynwy a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.

Fe sefydlodd ac arweiniodd doopoll, platfform digidol ar gyfer ymgysylltu â chynulleidfaoedd ac ymchwil i'r farchnad, nes iddo gael ei werthu yn 2022. Mae bellach yn cefnogi sefydliadau diwylliannol a chyhoeddus i gryfhau llywodraethu, datblygiad masnachol, ymgysylltu digidol a thwf cynulleidfaoedd.

Mae Rhodri Lewis yn gyfreithiwr cymwysedig gyda mwy nag 20 mlynedd o brofiad mewn rolau cyfreithiol a masnachol ar draws y sector chwaraeon. Ar ôl gweithio yn Llundain, Asia a'r Swistir, mae wedi gweithio gyda chyrff llywodraethu ym maes pêl-droed a rygbi'r undeb. Ar hyn o bryd mae'n Bennaeth Chwaraeon yn Carbon Law Partners yng Nghaerdydd.

Mae Rhodri hefyd yn gwasanaethu fel Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Feicio Geraint Thomas ac mae'n aelod o Fwrdd Chwaraeon a Phrentisiaethau Yr Urdd, ochr yn ochr â'i waith yn hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant o fewn y proffesiwn cyfreithiol.

Dywedodd Cadeirydd S4C, Delyth Evans, am y penodiadau: "Rwy'n falch iawn o groesawu Stephen Dimmick a Rhodri Lewis i Fwrdd S4C. Bydd eu profiad helaeth a’u safbwyntiau newydd yn cryfhau'r Bwrdd ymhellach wrth inni barhau i gyflawni ein Strategaeth ‘Mwy na Sianel Deledu’.

“Ar adeg o newid sylweddol i’r sector darlledu, rwy’n hyderus y byddant yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i waith y Bwrdd ac i gyfeiriad strategol S4C.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr S4C, Geraint Evans: "Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio gyda Rhodri a Stephen ac aelodau eraill y Bwrdd wrth inni gyflawni amcanion S4C ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod.

“Wrth inni drawsnewid ein gwasanaeth a chyrraedd cynulleidfaoedd mewn ffyrdd newydd, bydd eu mewnwelediad a’u cefnogaeth yn help mawr i sicrhau dyfodol cryf i'r cyfryngau Cymraeg."

Gallwch ddarllen mwy am y penodiadau yn y datganiad hwn gan DCMS.