Y Wasg

Y Wasg

S4C yn cyhoeddi buddsoddiadau newydd wrth weithredu ei strategaeth 'Mwy na Sianel Deledu'

8 Medi 2026

Mae Cronfa Twf Masnachol a Chronfa Cynnwys Masnachol S4C wedi ariannu dros £2 filiwn mewn i fusnesau a chynyrchiadau ers eu lansio ym mis Hydref 2023, gan gefnogi arloesedd, creu cynnwys a chyfleoedd twf rhyngwladol.

Drwy ei changen fasnachol, mae S4C wedi parhau i gefnogi busnesau a phrosiectau cyfryngau uchelgeisiol sy'n cyd-fynd â'i strategaeth 'Mwy na Sianel Deledu' wrth gryfhau economi greadigol Cymru a chynyddu cyrhaeddiad byd-eang cynnwys Cymraeg.

Ers ei lansio, mae'r Gronfa Twf Masnachol wedi buddsoddi £673,500 mewn busnesau sy'n canolbwyntio ar y cyfryngau sy'n cyd-fynd ag uchelgeisiau strategol S4C ac sy'n gallu dangos cyfleoedd sylweddol ar gyfer twf yn y dyfodol.

Mae buddsoddiadau diweddar yn cynnwys WFM Ltd, sy'n datblygu cynnyrch dinesig DA (AI) wedi'i leoli yng Nghymru.

Mae'r Gronfa hefyd wedi buddsoddi yn Wander Films, stiwdio cynnwys sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n gweithredu ar draws marchnata cynnwys, adloniant wedi'i frandio, cynnwys digidol a theledu. Mae Wander eisoes yn gweithio gyda nifer o bartneriaid a chleientiaid o Gymru ar draws cynnwys wedi'i frandio a darlledu, gyda disgwyl i fuddsoddiad S4C gefnogi twf, arloesedd a chydweithredu pellach yng Nghymru dros y blynyddoedd i ddod.

Ers ei chreu, mae Cronfa Cynnwys Masnachol S4C a chaiff ei rheoli drwy S4C Rhyngwladol wedi darparu £1.4 miliwn o gyllid i gynyrchiadau a phrosiectau sy'n dangos potensial cryf i gynhyrchu elw masnachol a chyrraedd cynulleidfaoedd y tu hwnt i Gymru, gan gynnwys:

·       Santa Maria, cyfres ddrama wedi'i lleoli yn Abertawe a'r cyd-gynhyrchiad drama cyntaf rhwng S4C ac ITV.

·       Gronyn Gobaith, cyfres ddogfen sy'n cynnwys mynediad unigryw i CERN wrth iddo nodi ei ben-blwydd yn 70 oed, gyda dosbarthiad rhyngwladol wedi'i sicrhau ar draws sawl tiriogaeth.

·       Hafiach, cyfres ddrama ar gyfer oedolion ifanc gyda dosbarthiad rhyngwladol, a gyrhaeddodd y rhestr fer yng Ngwobrau Rhyngwladol C21 am y Gyfres Ddrama Ffurf-newydd Orau.

·       Egin Bach, cyfres animeiddio i blant a gafodd ei chynhyrchu yng Nghymru gyda chefnogaeth gan S4C, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol ac ITV.

Mae'r gronfa hefyd yn darparu benthyciadau llif arian i gefnogi cynhyrchu cynnwys nodedig o Gymru. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi Effi o Blaenau, sef y ffilm Gymraeg sydd wedi derbyn yr enillion mwyaf erioed yn y swyddfa docynnau.

Cafodd y ddwy Gronfa S4C eu sefydlu i ddatgloi cyfleoedd masnachol newydd i gwmnïau cyfryngau, busnesau creadigol a chynhyrchwyr sy'n canolbwyntio ar Gymru tra'n helpu i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y sector.

Mae cangen fasnachol S4C yn parhau i chwilio am gyfleoedd i fuddsoddi mewn a darparu cyllid i gwmnïau sy'n gysylltiedig â'r cyfryngau yng Nghymru sy'n ceisio tyfu, arloesi neu ddatblygu cynnwys sydd â photensial gwerthu rhyngwladol.

Meddai Elin Morris, Prif Swyddog Gweithredu S4C: "Mae ein Cronfa Twf Masnachol a'n Cronfa Cynnwys Masnachol yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi busnesau creadigol a chynhyrchwyr cynnwys. Drwy fuddsoddi mewn arloesedd, talent a phrosiectau uchelgeisiol yn fasnachol, rydym yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio, ac yn cefnogi'r gwaith o greu cynnwys Cymreig a all gyrraedd cynulleidfaoedd gartref a ledled y byd."