Y Wasg

Y Wasg

Rhun ap Iorwerth yn emosiynol wrth gofio ei fam mewn rhaglen ddogfen newydd

10 Medi 2026

Mae Rhun ap Iorwerth wedi siarad yn agored am ei ddiweddar fam mewn rhaglen ddogfen newydd.

Roedd Prif Weinidog Cymru yn hel atgofion am Gwyneth Morus Jones fel rhan o raglen ddogfen bry-ar-y-wal newydd ar S4C, sy’n rhoi mewnwelediad unigryw i’w dri mis cyntaf wrth y llyw.

“Mi ddoth hi’n thema yn y dyddiau wedi’r etholiad i bobl gofio am y rhai o’dd ddim yma a deud ‘Waw, mi fydden nhw ‘di bod mor falch o weld hyn’,” meddai.

“Mi oedd gen i y person hwnnw hefyd, wrth gwrs, a Mam oedd honno.”

Roedd Mrs Morus Jones a’i gŵr Edward Morus Jones yn aelodau gweithgar o Blaid Cymru am flynyddoedd lawer.

Bu farw Mrs Morus Jones ym mis Rhagfyr 2012, mater o fisoedd cyn i Mr ap Iorwerth gael ei ethol i’r Senedd fel aelod Ynys Môn.

“Ma’ meddwl bod y person yna mor bwysig yn fy mywyd i ddim wedi bod yna yn rhywbeth dwi ‘di meddwl lot amdano fo, ond mae hi hefyd yno. Bob dydd,” ychwanegodd.

Yn y rhaglen ddogfen, Rhun ap Iorwerth: Y Tri Mis Cyntaf, mae chwaer arweinydd Plaid Cymru, Awen Iorwerth, hefyd yn adlewyrchu ar ddylanwad eu mam.

“O’dd Cymru, y Gymraeg yn bwysig iawn i Mam. O’dd o’n rhan ohoni erioed. Yr Eisteddfod, canfasio dros Blaid Cymru,” meddai.

“[Roedd y fuddugoliaeth yn golygu] bod hi ‘di cael rhoid rhan ohoni’i hun drwy Rhun.”

Mae’r rhaglen (cynhyrchiad Boom Cymru a Zwwm Films ar gyfer S4C) hefyd yn dilyn Rhun ap Iorwerth yn yr oriau wedi etholiad Senedd mis Mai, wrth i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi ar hyd a lled Cymru.

Wrth ymateb i rai o’r canlyniadau cynnar, dywedodd y Prif Weinidog: “Beth sydd wedi digwydd drwy’r dydd [wrth] ‘dan ni ‘di gweld canlyniadau’n dod i mewn, ydy, fyddwn i’n deud cryfhau a chadarnhau’r newid gwbwl hanesyddol ‘dan ni ‘di gweld heddiw ‘ma yn hanes gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r teimlad o gyfrifoldeb yn fawr.”

Bydd Rhun ap Iorwerth: Y Tri Mis Cyntaf ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer o 10 Medi.