Y Wasg

Y Wasg

Steffan Powell i ymuno â theulu Y Llais ar S4C

1 Hydref 2026

Steffan Powell fydd cyflwynydd newydd Y Llais ar gyfer y drydedd gyfres ar S4C. 

Bydd Steffan yn ymuno â'r hyfforddwyr Aleighcia Scott, Bronwen Lewis, Syr Bryn Terfel ac Yws Gwynedd sy’n dychwelyd i’r cadeiriau coch eiconig.  

Mae Steffan yn lais cyfarwydd i wrandawyr ar draws y Deyrnas Unedig fel newyddiadurwr a chyn-gyflwynydd BBC Radio 1 Newsbeat, cyflwynydd y Sioe Frecwast ar BBC Radio 5 Live a rhan o deulu BBC Radio 2.  

Ar deledu bu’n cyflwyno’r gyfres tu ôl i’r llen Doctor Who: Unleashed ar BBC Three, yn wyneb cyfarwydd i The One Show ar BBC One ac i gynulleidfaoedd S4C wrth gyflwyno cyfresi fel Symud i Gymru a Colli Cymru i’r Môr. 

Fel ffan mawr o gemau cyfrifiadurol, mae Steffan hefyd wedi creu ac yn cyflwyno’r podlediad Press X to Continue, gan gyfweld â sêr rhyngwladol amlwg megis Keanu Reeves ac Usain Bolt. 

Wrth baratoi i ymuno â’r gyfres, dywedodd Steffan Powell: "Dwi wrth fy modd  i fod yn ymuno â thîm Y Llais!  Ma' fe mor braf gweld talent Cymraeg yn cael y cyfle i serennu ar gyfres fyd-enwog, a dwi methu aros i weld pwy fydd y person nesa' i godi gwefr ar y gynulleidfa.  Hefyd, dwi’n cymryd fyddai’n cael eistedd yn un o’r cadeiriau coch enwog ambell waith? Gall rhywun checo hwnna plîs…?" 

Hoffai S4C ddiolch i Sian Eleri am fod yn gwmni i’r cystadleuwyr ac i’r gwylwyr yn ystod dwy gyfres hynod o lwyddiannus. 

Wrth adlewyrchu ar ddwy gyfres wrth y llyw, dywedodd Sian Eleri: “Mae bod yn gyflwynydd cyntaf Y Llais wedi bod yn fraint mwyaf fy mywyd.  Mae dathlu talent Cymreig a bod yn rhan o roi llwyfan i leisiau newydd o fewn brand byd-eang eiconig wedi golygu'r byd i mi.  O densiwn y botymau coch i'r cyffro pan fo'r cadeiriau'n troi, mae hi wedi bod yn wirioneddol fythgofiadwy.  Diolch o galon i'r tîm bendigedig.  Dwi wrth fy modd â Steffan, a dwi methu aros i'w weld o wrthi a gweld yr holl artistiaid anhygoel yng Nghyfres 3!" 

Ychwanegodd Beth Angell, Comisiynydd Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C: “Mae’r cadeiriau coch yn eu hôl, a’r tro yma mae ganddynt gwmni newydd ar lwyfan enwog Y Llais.  Hoffem ddiolch o galon i Sian Eleri am bob dim mae hi wedi ei wneud i roi stamp Cymraeg ar fformat rhyngwladol poblogaidd, a dymuno’n dda iddi ar ei phrosiectau nesaf.  Mae hi’n bleser croesawu Steffan i deulu Y Llais ar gyfer Cyfres 3, fydd unwaith eto yn cynnig llwyfan i dalent newydd, gyda digonedd o droelli.” 

Mae tocynnau bellach ar gael i wylio Y Llais Cyfres 3 yn cael ei recordio drwy wefan Y Llais. 

Mae Y Llais yn fersiwn Gymraeg o'r gyfres deledu fyd-eang boblogaidd, The Voice, fformat sy'n perthyn i ITV Studios, sydd ar hyn o bryd yn darlledu mewn 77 o diriogaethau.  Mae Y Llais wedi'i gynhyrchu gan Boom Cymru, rhan o ITV Studios.