
11 Hydref 2026
Mae’r gyfres ddrama arobryn Cleddau yn archwilio rheolaeth drwy orfodaeth ac ochr dywyll y byd dêtio ar-lein wrth iddi ddychwelyd am ail gyfres ar S4C.
Mae’r gyfres, sy’n dychwelyd ar 11 Hydref, wedi gweithio’n agos gydag ymgynghorydd heddlu i sicrhau bod y ddrama’n adlewyrchu sut mae’r heddlu’n ymateb i'r realaeth sy’n wynebu miloedd o bobl bob blwyddyn.
Roedd 49,557 achos o reolaeth drwy orfodaeth wedi eu hadrodd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2025, yn ôl yr elusen Women’s Aid.
Roedd ysgrifennu am themâu cymdeithasol oedd yn ei phryderu yn holl bwysig i'r awdur Catherine Tregenna (Three Pines, Law & Order UK, Lewis, DCI Banks a The Bench).
Wrth ail-ymweld â Sir Benfro ac ail-gydio ym mywydau y ditectifs DI Ffion Lloyd (Elen Rhys) a DS Rick Sheldon (Richard Harrington), mae’r gyfres wedi gweithio â’r ymgynghorydd Heddlu Lisa Casler.
Mae Lisa wedi gweithio gyda Catherine Tregenna i ddatblygu elfennau heddlu'r stori er mwyn eu cadw mor driw â phosib i realiti plismona.
Ond meddai Lisa, sydd wedi gweithio fel ymgynghorydd ar gyfresi megis Happy Valley, ei bod hi'n "linell denau" rhwng realaeth a drama.
"Mae'n rhaid cynnal elfen o wirionedd, yr elfennau gweithdrefnol, y geiriau arbenigol a'r trafodaethau rhwng aelodau'r tîm," meddai.
"Y prif beth yw ceisio gwneud i bethau ffitio. Hygrededd y stori yw'r hyn sy'n bwysig ac os oes angen i'r rhyddid creadigol gael ei flaenoriaethu wedyn dyna'r ffordd ymlaen."
Ond mae Lisa yn nodi bod Cleddau yn "fwy na drama heddlu".
"Y swydd mae'r cymeriadau yn ei wneud yw plismona. Mae'r ddrama am berthnasoedd, bywyd teuluol a'r pwysau maen nhw'n ei gael ar eich bywyd gwaith, pa bynnag swydd chi'n ei dewis," ychwanega.
Yn y gyfres hon, mae nofwraig leol yn darganfod corff yn Afon Cleddau.
Mae’n rhaid i DI Lloyd a DS Sheldon gyd-weithio unwaith yn rhagor i ddarganfod pwy yw’r llofrudd sydd yn defnyddio ap dêtio i ddenu merched i’w rwyd.
"Mae Cath mor dalentog yn y ffordd mae'n gwybod yn union sut mae hi am ddweud y stori a chymaint o fenywod sy'n dioddef yn wyneb y math yma o drosedd," meddai Lisa.
"Roedd hi'n allweddol i ni sicrhau bod realaeth yn sail i'r stori hon ac i ddangos Ffion, y fenyw arbennig, ddewr, glyfar hon yn cael ei denu gan y math hwn o dwyll."
Ychwanega Catherine Tregenna: "Wnaethom ni benderfynu bod ni am edrych ar fyd on-line dating, mae’r llofruddiaethau yn digwydd gan rywun sydd yn cwrdd â merched ar-lein. Mae e i gyd amdano – os wyt ti am roi dy hun mas yna? Wyt ti am roi dy hun mewn risg cael dolur?
"Roedd hi’n fyd diddorol iawn ac yn teimlo'n gyfoes iawn hefyd."
Cafodd Cleddau ei gynhyrchu gan Blacklight ar gyfer S4C a'i ddosbarthu gan Banijay Rights, cangen ddosbarthu fyd-eang Banijay Entertainment, ac wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.
Bydd Cleddau yn dechrau ar nos Sul, 11 Hydref am 21.00, gyda phob pennod i’w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer o’r un dyddiad ac mae'r gyfres gyntaf i’w gweld ar S4C Clic a BBC iPlayer nawr.
Noddir dramau S4C gan Trafnidiaeth Cymru.