Y Wasg

Y Wasg

Pijin: Addasiad o nofel arobryn Alys Conran yn dod i’r sgrin fawr

27 Hydref 2026

Mae‘r gwaith ffilmio wedi cwblhau ar Pijin, ffilm newydd Gymraeg wedi’i chyfarwyddo gan Euros Lyn a’i chynhyrchu gan Triongl ar gyfer S4C fel rhan o gynllun Sinema Cymru. 

Mae’r ffilm wedi’i haddasu ar gyfer y sgrin fawr gan Angharad Elen o nofel arobryn Alys Conran, Pigeon, gyda Nora Ostler Spiteri (Un Bore Mercher; Y Gwyll) yn cynhyrchu.  

Mae’r tîm uwch gynhyrchu yn cynnwys John Giwa-Amu (The Party, H is For Hawk), ynghyd â Gethin Scourfield (Y Gwyll/Hinterland; The Miniaturist), Alec Spiteri (Y Golau/The Light in the Hall; Keeping Faith) ac Angharad Elen.  

Wedi’i gosod ym Methesda, yng nghanol ardal chwareli llechi gogledd Cymru, mae Pijin yn dilyn dau ffrind, Pijin ac Iola, a gyfarfu yn ystod haf 1992. 

Mae Pijin, bachgen 12 oed a chanddo ddychymyg byw, yn dyheu am ddianc rhag ei fywyd gartref. Wrth i’w ddychymyg fynd ag ef i fyd arall gyda Iola, mae’r ddau’n dechrau credu yn eu straeon eu hunain. Ond wrth i’r ffin rhwng ffantasi a realiti ddechrau pylu, mae eu hantur yn cymryd tro tywyll – ac yn fuan iawn, mae gwaed ar eu dwylo. Gwaed go iawn. 

 Ymysg cast y ffilm mae Rhodri Meilir (Craith, My Family); Rhian Blythe (Cleddau, Craith, Gwaith/Cartref), Sam Bottomley (How to Have Sex, Ackley Bridge); Barry Sloane (Revenge, Longmire, SIX, Call of Duty); Priya Rose Brookwell (The Lazarus Project, Grow), Mabon Gwyn Williams ac Aria Medi.

Yn dilyn cyhoeddiad am y ffilm Western Cymraeg cyntaf, Lluest, hwn yw’r ail gynhyrchiad a ddatblygwyd drwy gynllun Sinema Cymru. 

Mae Sinema Cymru yn gydweithrediad rhwng S4C, Llywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales i gefnogi ffilmiau nodwedd Cymraeg sydd â’r potensial i fod ar y sgrin fawr yn rhyngwladol.  Comisiynwyd y ffilm gan Gwenllian Gravelle, cyn Gomisiynydd Drama a Ffilm S4C. 

Mae'r ffilm hefyd wedi cael ei ariannu gan Gronfa Cynnwys Masnachol S4C a  Ffilm Cymru.  

Mae’n dilyn llwyddiant y ffilm Effi o Blaenau, oedd yn gydweithrediad rhwng S4C a Cymru Greadigol.  

Cafodd Pigeon gan Alys Conran ei chyhoeddi yn 2016, ac enillodd dair gwobr yng nghategori Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2017, gan gynnwys y brif wobr. Roedd y nofel hefyd ar restr fer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas. 

Cafodd y nofel ei haddasu i’r Gymraeg gan yr awdures a’r cyfieithydd Sian Northey. Cafodd y stori ei haddasu ar gyfer y llwyfan gan Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, ac fe aeth ar daith yn 2023. 

Meddai Catrin Cooper, Comisiynydd Ffilm S4C:

"Mae gwneud ffilm yn dechrau gyda'r bobl y tu ôl iddi, ac mae Triongl wedi dod â thîm arbennig o gryf ynghyd ar gyfer ei ffilm nodwedd gyntaf. Mae S4C yn falch o gefnogi eu gwaith, ac edrychwn ymlaen at rannu'r ffilm orffenedig gyda chynulleidfaoedd." 

Meddai Euros Lyn, Cyfarwyddwr ac Uwch Gynhyrchydd:

“Mae’n fraint gweithio gyda thalent fel Alys Conran ac Angharad Elen - criw eithriadol, ac actorion ifanc llawn brwdfrydedd sy’n gwneud eu hymddangosiad cyntaf ar y sgrin, ynghyd â thirwedd epig Dyffryn Ogwen sy’n gynfas sinematig i’r ffilm”.  

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:  

  "Mae hwn yn gyfnod mor gyffrous i ffilmiau Cymraeg ac mae Pijin yn enghraifft wych arall o'r dalent greadigol sydd gennym yma yng Nghymru. Mae'r ffilm Gymraeg hon yn dod â chast a chriw eithriadol at ei gilydd i addasu nofel glodwiw Alys Conran ar gyfer y sgrin fawr, ac mae'n wych ei bod yn digwydd o ganlyniad i Sinema Cymru, partneriaeth rhwng Cymru Greadigol, S4C, a Ffilm Cymru Wales sydd wedi'i chynllunio'n benodol i gefnogi a chyflymu ffilm Gymraeg a'i helpu i gyrraedd y gynulleidfa ehangaf bosibl.  

 "Mae cefnogi adrodd straeon uchelgeisiol fel hyn nid yn unig yn arddangos ein talent anhygoel yn y diwydiant i gynulleidfaoedd gartref, ond mae ganddo'r potensial hefyd i roi ffilm Gymraeg yn gadarn ar y llwyfan rhyngwladol. Edrychaf ymlaen at weld y ffilm orffenedig."